Mae gadael cartref yn gam mawr, felly dylet sicrhau dy fod wedi cynllunio lle i fyw cyn i ti adael. Gall gadael cartref heb unman i fynd iddo dy wneud yn ddigartref, a bydd hynny’n effeithio ar filoedd o bobl ifanc o bob cefndir yn flynyddol yng Nghymru.
Ni elli di adael cartref heb ganiatâd dy rieni neu dy warcheidwad nes byddi’n 18 oed. Os wyt yn 16 neu’n 17 oed, bydd angen eu caniatâd swyddogol arnat. Os wyt dan 16 oed, nid oes gennych unrhyw hawl i gymorth tai o gwbl, ond os wyt wirioneddol yn anhapus, mae pobl ar gael i siarad â hwy a chynnig cymorth.
Os wyt ti’n credu ei fod yn anniogel i ti aros gartref, dylet chwilio am gymorth yn syth – mae cyngor ar gael yn yr adran Trais yn y Cartref. Gallwch hefyd gael cyngor gan y Gwasanaethau Plant RhCT ar 01443 425006 neu 01443 743665 os ar ôl 5pm. Mewn gwirionedd, mae canfod llety yng Nghymru yn anodd iawn, felly paid â gadael cartref nes bydd gen ti rywle diogel i fynd iddo.
- Meddylia am dy resymau dros adael cartref a phaid â gwneud unrhyw benderfyniadau byrbwyll. Efallai gwnei di ddifaru hynny. Mae angen i ti ystyried yn ofalus cyn gadael cartref
- Os wyt yn dymuno gadael cartref oherwydd chwalfa neu ffrae deuluol, ceisia drafod pethau â dy deulu yn gyntaf. Efallai gallwch ddatrys y broblem gyda’ch gilydd. Os wyt yn teimlo na elli siarad â hwy, mae gwasanaethau cymodi yng Nghymru a all gynorthwyo. Er enghraifft, mae gan Llamau wasanaeth cymodi sy’n cynorthwyo pobl ifanc 16 ac 17 oed a’u teuluoedd i ddatrys anghydfodau neu ganfod llety os nad oes modd iddynt ddychwelyd neu aros adref
Ystyria dy ddyfodol tymor hir, nid y tymor byr yn unig. Er enghraifft, ni elli di gysgu ar soffa dy ffrind am byth, a beth wnaiff ddigwydd pan fydd rhaid i ti symud oddi yno
- Ni elli di gael tenantiaeth nes byddi’n 18 oed, felly os wyt dan 18, ni fyddi’n gallu rhentu lle i fyw a bydd rhaid i ti wneud trefniadau eraill
- Os cei di denantiaeth, cofia sicrhau y gelli di fforddio’r blaendal a’r biliau cyn llofnodi unrhyw beth. Bydd cynilo cyn gadael cartref yn wastad yn syniad gwell, fel bydd gennyt arian wrth gefn i ddibynnu arno yn ystod yr ychydig wythnosau neu fisoedd cyntaf tra byddi’n rhoi trefn ar bethau
- Os wyt yn bwriadu gadael cartref a heb unrhyw le i fynd iddo, ffonia dy awdurdod lleol. Os wyt dan 18, mae’n rhaid iddynt ganfod llety i ti, ond efallai bydd angen amser i wneud hyn, felly ceisia beidio symud nes byddant wedi trefnu rhywbeth i ti
Os wyt yn meddwl am adael cartref, dyma restr o bethau i’w hystyried cyn gwneud penderfyniad:
- Ble alla i fynd? Bydd rhaid i ti sicrhau lle i fyw ynddo am y tymor hir?
- Sut alla i ganfod rhywle i fyw?
- Alla i rentu rhywle? Alla i fforddio rhentu?
- Alla i rannu llety ag unrhyw un?
- A oes gennyf hawl i gael cymorth i ganfod llety?
- Sut fydda i’n talu am fy llety?
- Sut fydda i’n talu am fy mwyd, dillad, biliau ynni a dŵr a threth y cyngor?
- A oes gennyf unrhyw gynilon?
- Pam wyf yn dymuno gadael cartref? Alla i ddatrys y broblem?
- Beth fydd effaith byw ar fy mhen fy hun ar fy mywyd?
- A oes posibilrwydd y byddaf yn ddigartref?
Paid â mentro wrth adael cartref, a chofio fod â chynllun yn ei le bob amser. Os wyt yn bryderus, siarad â dy deulu, dy ofalwyr neu dy ffrindiau, neu ffonia llinell gymorth megis Meic neu Childline, a all gynnig cyngor a chymorth.
Meic Helpline – 0808 80 23456
Childline – 0800 1111
Samaritans – 116 123
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru