Pasbortau
Os wyt ti’n dymuno teithio i wlad tramor, bydd angen i ti gael pasbort. Mae’n rhaid i bawb, gan gynnwys babanod, gael pasbort os ydyn nhw’n dymuno teithio tramor.
- Er mwyn gwneud cais am basbort, mae modd casglu ffurflen o swyddfa bost leol a gwneud cais drwy’r post. Mae modd hefyd gwneud cais ar-lein drwy wefan y Swyddfa Pasbortau.
- O’r eiliad y maen nhw’n derbyn dy gais, bydd y swyddfa pasbortau yn ceisio dosbarthu dy basbort newydd o fewn tair wythnos. Ond yn ystod cyfnodau prysur, megis gwyliau’r haf, gall gymryd mwy o amser. Felly, mae’n hynod bwysig i wneud yn siwr bod pasbort diweddar gen ti mewn digon o amser cyn i ti fynd ar dy wyliau
- Mewn argyfwng, os wyt ti’n teithio o fewn pythefnos, mae modd mynd i’r Swyddfa Pasbortau a chiwio i gael pasbort ar yr un diwrnod. Mae yna Swyddfa Pasbortau yn Ne Cymru, yng Nghasnewydd, neu mae yna swyddfa yn Lerpwl hefyd.
- Bydd rhai gwledydd yn gwrthod i ti ddod i mewn i’r wlad os yw’r pasbort yn dod i ben o fewn chwe mis o ddyddiad eich taith, neu os dim ond ychydig o dudalennau gwag sydd ar ôl ynddo. Dylet ti wirio cyn teithio os hyn sy’n wir ar gyfer y wlad rwyt ti’n bwriadu ymweld â hi.
- Mae dy basbort yn ddogfen hynod bwysig. Os byddi di yn cael damwain, neu os bydd rhywbeth yn digwydd i ti ar dy wyliau, bydd angen pasbort arnat ti er mwyn i ti gael cymorth oddi wrth ysbyty neu oddi wrth yr heddlu – cadwa dy basbort mewn man diogel, neu gyda ti ar bob ateg pan fyddi di’n teithio!
- Os bydd rhywun yn dwyn dy basbort, neu os byddi di’n ei golli, cysyllta â’r Llysgenhadaeth, Uchel Gomisiwn neu Gonswl Prydeinig agosaf i gael cyngor.
- Mae’n syniad da i lungopïo’r tudalennau yn dy basbort sydd â lluniau a’u cadw’n ddiogel mewn man ar wahân pan fyddi di’n mynd ar dy wyliau.
Teithebau
Teitheb yw’r ddogfen swyddogol sy’n rhoi caniatâd i ti deithio i wledydd penodol. Bydd unrhyw deitheb yn cael ei hatodi i un o’r tudalennau yn dy basbort.
- Ar ôl y bleidlais Brexit, mae’n ansicr os bydd yr hawl i symud yn rhydd o fewn y cyfandir yn parhau pan fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol. Serch hynny, os wyt ti’n teithio o fewn yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd fydd dim angen teitheb arnat ti os wyt ti’n Ddinesydd Prydeinig. Mewn gwledydd tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, mae’n debyg bydd angen teitheb arnat ti.
- Mae’n haws i gael teitheb ar gyfer rhai gwledydd nag eraill. Mae’n bosibl y bydd rhaid talu am rai teithebau.
- Rhaid i ti wirio bod y math cywir o deitheb gyda ti ar gyfer y daith rwyt ti’n bwriadu’i chymryd. Mae’r mwyafrif o deithebau i dwristiaid yn para am dri mis, ond os wyt ti’n dymuno gweithio pan fyddi di’n teithio, bydd angen math gwahanol o deitheb arnat ti. (Manylion yn yr adran teithebau gwaith).
- Bydd rhaid i ti gael teitheb cyn teithio, felly mae’n rhaid i ti wneud yn siwr bod digon o amser i ti gael un cyn teithio. Mae yna gwmniau ar gael sy’n gallu trefnu teithebau ar dy ran, ond efallai bydd costau ynghlwm â’r rhain.
- Mae modd i ti wirio’r hyn sydd ei angen arnat ti i ymweld â phob gwlad trwy fynd i gyfeiriadur y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru