Mae Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yn ddathliad byd-eang o unigolion niwroamrywiol sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o ystod o anableddau niwroddatblygiad ac anableddau dysgu, a herio ystrydebau yn eu cylch.
Sefydlodd ni ein Fforwm Ieuenctid Niwroamrywiaeth ym mis Medi 2023 hefyd. Mae’r Fforwm yn cynnwys deuddeg o bobl ifainc anhygoel ac unigryw rhwng 12 a 24 oed sy’n barod i ymgymryd â’r her o hyrwyddo newid cadarnhaol.
Trwy waith prosiect a chynnal achlysuron, nod y fforwm yw:
- Grymuso pobl ifainc niwroamrywiol i ddathlu eu niwrowahaniaethau.
- Cefnogi aelodau’r Fforwm i archwilio eu dealltwriaeth eu hunain o sut mae niwroamrywiaeth yn effeithio ar eu bywydau a nodi’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
- Herio’r ystrydebau a’r rhagfarnau sy’n ymwneud â niwroamrywiaeth i’r gymuned ehangach.
- Addysgu pobl ifainc am niwroamrywiaeth.
- Hyrwyddo ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth ar draws nifer o lwyfannau.
Bydd y Fforwm yn cael ei lansio’n swyddogol yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth gyda phrosiect cyffrous sy’n cefnogi anghenion synhwyraidd pobl ifainc. Mae aelodau’r Fforwm wedi dylunio a chynhyrchu blychau synhwyraidd ac wedi’u llenwi ag amrywiaeth eang o deganau ‘fidget’ i’r holl bobl ifainc sy’n mynychu unrhyw un o’n clybiau ieuenctid ar draws RhCT eu defnyddio. Mae teganau ‘fidget’ yn ffordd wych o leihau pryder a straen a chynyddu lefelau canolbwyntio.
Bydd aelodau’r Fforwm yn mynd gyda staff i glybiau ieuenctid i ddosbarthu’r blychau, esbonio’r adnoddau a hyrwyddo pwysigrwydd cydnabod eich anghenion synhwyraidd unigol.
“Does dim ots pwy ydych chi, rydych chi’n cael eich derbyn yma.”
Aelodau’r Fforwm Ieuenctid Niwroamrywiaeth
“Mae’n hwyl ac yn hapus, dyma’r lle gorau i fod.”
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru