Eisteddfod 2024!

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o Ddiwylliant Cymru, cymysgedd o gystadlaethau talent a chyngherddau gyda’r nos, gigiau, dramâu, arddangosfeydd a llawer yn rhagor. Mae’n achlysur hwyl i’r teulu sy’n annog pawb (siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg) i ddod i brofi’r cyfuniad unigryw o gystadlu a gŵyl. Cynhaliwyd yr Eisteddfod ym Mhontypridd yn Rhondda Cynon Taf. Y tro diwethaf iddi hi ymweld â’r ardal oedd yn 1956, a hynny yn nhref Aberdâr.

Roedd derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chyngor RhCT i gynnig cyfle i 150 o bobl ifanc o bob rhan o RhCT fynychu’r Eisteddfod yn wych. Roedd y bobl ifanc a fynychodd mor ddiolchgar am y cyfle i brofi’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn y digwyddiad a hefyd gweld Pontypridd a RhCT yn derbyn adborth mor gadarnhaol gan bobl o bob rhan o Gymru.

Bedwyr Harries – Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid

“Mi wnes i wir fwynhau’r cyfle i weithio yn yr Eisteddfod a phrofi’r hyn yr oedd ganddi i’w gynnig ym Mhontypridd! Roeddwn i’n falch o achub ar y cyfle i ymarfer siarad Cymraeg ac wrth fy modd yn gwylio rhai o brif seremonïau’r Eisteddfod fel urddo’r beirdd a gwylio’r orsedd yn cerdded o amgylch y parc! Cefais i ac Ali gwrdd â Siôn Tomos Owen, sy’n artist ac yn awdur lleol o Gwm Rhondda, ac fe wnaeth hyn fy ysbrydoli i geisio siarad mwy o Gymraeg ac ymweld ag Eisteddfod arall yn y dyfodol!”

Chelsea Coles – Swyddog Ymgysylltu a Chynnydd Ieuenctid

Lee Taylor – Swyddog Ymgysylltu Ieuenctid

Roedd hi’n bleser bod yn rhan o achlysur mor hanesyddol, roedd hi’n bwysig iawn ein bod ni’n mynd â phobl ifainc yno i gael blas ar hyn a allai fod yn gyfle unwaith mewn oes. Roedd hi’n bleser gweld yr holl ddiwylliant Cymreig ac mae’n gwneud i chi sylweddoli pa mor lwcus ydyn ni i fod yn rhan o wlad mor anhygoel.”

Isabella, 13
“Roedd yr Eisteddfod yn ffordd dda o ysbrydoli holl blant Cymru i siarad mwy o Gymraeg.

Maisie, 13
“Roedd hi’n ysbrydoledig gweld yr holl bobl yn siarad Cymraeg”

Chloe, 18
“Fe wnes i fwynhau’r Eisteddfod oherwydd fy mod i wedi cael cyfle siarad â phobl o wahanol brifysgolion, sydd wedi rhoi dealltwriaeth i mi o ran beth i’w wneud a sut i gyflwyno cais i’r brifysgol. Fe ges i hefyd gyfle i siarad Cymraeg a chwrdd â phobl newydd”

Abigail:
“Fe wnes i wir fwynhau awyrgylch yr ŵyl a pha mor gyfeillgar oedd pawb, roeddwn i’n teimlo’n falch o fod yn Gymraes ac fe helpodd y profiad i mi sylweddoli beth mae’n ei olygu i fod yn Gymraes. Fy hoff beth oedd gweld yr holl fusnesau bach a’r holl waith caled roedden nhw wedi’i gyflawni ar eu stondinau.

Mari Bianchi Jones
Fe ges i amser mor wych yn yr Eisteddfod! Roeddwn i wrth fy modd â’r gerddoriaeth gan y perfformwyr gwych ar y llwyfan amryliw a bywiog – daeth hyn â’r achlysur yn fyw. Fy hoff ran oedd cystadlu ag ysgolion eraill yn y Babell Lên a gwylio eu fideos o ganeuon parodi Caryl Parry Jones; roedd gweld yr hyn yr oedd pawb wedi’i greu yn brofiad difyr! Y foment fwyaf cofiadwy i mi oedd gweithio mewn stondin oedd yn gwerthu bwyd o’r Caribî a rhoi cynnig ar y cyri tatws melys – roedd e’n flasus iawn.

Beca Bianchi Jones
Wedi mwynhau gweithio yn y stondin oedd yn gwerthu bwyd o’r Caribî gyda fy ngyfeilles, Mari. Pleser mawr oedd gwylio’r disgyblion ysgol i gyd yn perfformio eu cerddi a rhagor yn y pebyll. Fy hoff beth erioed am yr Eisteddfod oedd canu gyda’r holl gerddoriaeth Gymraeg (gan fy mod i’n siarad Cymraeg fy hun, dyma oedd y rhan fwyaf cofiadwy o’r Eisteddfod i mi hefyd). Ar ben yr holl gerddi anhygoel, y caneuon gwych, y bwyd a rhagor, byddwn i’n dweud mai fy hoff ran arall o’r Eisteddfod oedd y stondinau arbennig a oedd yn gwerthu tlysau Cymreig, gemwaith, ategolion a llawer yn rhagor!

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl