Ydych chi’n rhwng 16 a 24 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant?
Mae modd i Weithwyr Cymorth Cyfnod Pontio ddarparu gwybodaeth, cymorth a chyngor hyblyg sydd wedi’u teilwra er mwyn eich helpu chi i gael mynediad i fyd Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant a chyflawni’ch potensial.
Pa fath o gymorth ydyn ni’n ei gynnig?
- Rydyn ni’n cynnig cymorth a fydd yn eich helpu chi i gael mynediad i fyd gwaith, hyfforddiant neu addysg bellach yn ogystal â gwneud atgyfeiriadau i feysydd sector penodol.
- Cymorth un i un a chymorth mewn grwp.
- Cyfleoedd i fanteisio ar gymorth a fydd yn gwella’ch sgiliau llythrennedd a rhifedd.
- Codi lefelau cymhelliad, hyder a hunan-barch
- Datblygu sgiliau cyflogadwyedd gan gynnwys sut i ysgrifennu CV a thechnegau cyfweliad.