Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda phobl ifainc rhwng 11 a 25 oed yn y gymuned i wella eu cydnerthedd a chynnig cyfleoedd iddyn nhw gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd, cyffrous a llawn hwyl. Mae gan y gwasanaeth garfan fawr o staff llawn amser a rhan amser ond maen nhw’n dibynnu ar wirfoddolwyr brwdfrydig ac ymroddgar sy’n gweithio’n galed.
Mae’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli o safon uchel i bobl o bob oed ac o bob cefndir, gan barchu pob rheswm dros ddod yn wirfoddolwr. Rydyn ni’n cydnabod pa mor werthfawr yw ein gwirfoddolwyr o ran cefnogi ein staff a chynnig syniadau arloesol. Rydyn ni hefyd yn cydnabod bod y cyfleoedd yma’n helpu i ddiwallu’ch anghenion, ac i wireddu’ch nodau o ran gwirfoddoli. Mae nifer o resymau dros wirfoddoli, dyma rai ohonyn nhw:
- Cefnogi Addysg Pobl Ifainc – Gall gwirfoddoli gynnig profiadau gwerthfawr ar gyfer eich astudiaethau yn yr ysgol, coleg, prifysgol, hyfforddiant, ac ati.
- Gwaith Ieuenctid fel gyrfa – Mae gwirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn fan cychwyn gwych o ran dechrau’ch gyrfa ym maes gwaith ieuenctid. Byddwch chi’n cael profiad gwerthfawr ac yn derbyn hyfforddiant ym maes gwaith ieuenctid.
- Rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned – Mae croeso i bobl o bob oed wirfoddoli fel ffordd o roi eich amser, sgiliau a’ch gwybodaeth yn ôl i’ch cymuned leol.
- Cymdeithasu, cwrdd â phobl newydd a defnyddio’ch amser – Mae gwirfoddoli yn ffordd o gwrdd â phobl newydd, treulio eich amser hamdden, cefnogi lles a magu hyder.
Os ydych chi’n dros 18 oed ac os oes gyda chi ddiddordeb mewn dod yn wirfoddolwr gyda’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, mynegwch eich diddordeb ar eich cyfrifiadur, llechen neu ffôn symudol drwy ddilyn y camau canlynol:
- Cliciwch ar y ddolen isod a chwblhau’r ffurflen gofrestru yn fanwl
https://forms.office.com/r/K17kgXS98e - Ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen, byddwch chi’n derbyn e-bost o fewn 14 diwrnod yn cadarnhau eich bod chi wedi cofrestru. Byddwch chi hefyd yn derbyn pecyn croeso sy’n cynnwys cyfrifoldebau allweddol gwirfoddolwr, cod ymddygiad a chwestiynau cyffredin.
- Byddwch chi’n derbyn gwahoddiad i gyfarfod anffurfiol gydag Arweinydd y Garfan Datblygu’r Gweithle i drafod oriau a lleoliad, trefnu gwiriad gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a rhoi sesiwn sefydlu i chi. Bydd hon yn cynnwys penderfynu ar ddyddiad dechrau.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am wirfoddoli, e-bostiwch YEPSVolunteers@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 07825 675704 neu 07769 164715
Roedd cymaint o gyfleoedd ar gael i fi wrth wirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, ac roedd modd i fi ddysgu am waith ieuenctid. Y profiad yma oedd y sbardun roedd ei angen arna i ac roedd yn fuddiol o ran magu hyder wrth weithio gyda phobl ifainc. Roeddwn i wir yn mwynhau gwirfoddoli ac yn hoff iawn o wneud rhywbeth i helpu pobl ifainc.
Josie – Treorci
Mae’r garfan yn cydweithio’n agos iawn ac maen nhw i gyd mor groesawgar. Mae pawb bob tro’n barod i helpu. Rydw i wedi dysgu sut i sefydlu perthynas gyda phobl ifainc a sut i fod yn ddylanwad cadarnhaol ar eu bywydau nhw. Dechreuais i fy ngyrfa yn gwirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ac rydw i bellach yn weithiwr ieuenctid achlysurol yn rhan o’r gwasanaeth.
Caitlin – Cwm Cynon