Mae Awst 14eg 2024 yn nodi’r diwrnod y cafodd YEPS ei enwi’n swyddogol yn Sefydliad Partner swyddogol ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru 2024-2026.
Mae hwn yn gyfle cyffrous a gwerthfawr i bobl ifanc leisio’u barn ar faterion sy’n effeithio arnynt yng Nghymru a’u hardal leol.
Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnwys 60 o seddi (40 o seddi etholaethol ac 20 o asiantaethau partner), ac o’r rhain mae YEPS yn un sedd, y byddwn yn ethol person ifanc o RhCT iddi. Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn yn fuan ar sut y bydd hyn i gyd yn gweithio ond yn y cyfamser edrychwch ar y ddolen hwn Senedd Ieuenctid Cymru am ragor o wybodaeth.
Gallwch hefyd gofrestru i bleidleisio yn Etholiad Senedd Ieuenctid Cymru fis Tachwedd yma drwy fynd i’r dudalen hwn Cofrestru i Bleidleisio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am Senedd Ieuenctid Cymru cysylltwch ag allyn.jones@rctcbc.gov.uk a chadwch llygad ar ein digwyddiadau cymdeithasol am fwy o wybodaeth gyffrous yn dod yn fuan.