Cyrhaeddodd dau o brosiectau YEPS y restr fer yn rownd derfynol Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol, a gynhaliwyd yn Llandudno ar 22 Chwefror. Mae’r enwebiad yma’n gydnabyddiaeth o waith caled pobl ifainc ein cymuned yn ogystal â staff YEPS sy’n sicrhau bod modd i’r bobl ifainc yma fanteisio ar weithgareddau o ansawdd uchel, sy’n ddefnyddiol ac yn atyniadol. Mae’r ddau brosiect ar y rhestr fer yn cynnwys creu animeiddiadau sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd meddwl a chodi ymwybyddiaeth o faterion a hanes LHDTC+ trwy gyfres o brosiectau sy’n tynnu sylw at straeon LHDTC+.
Rwy’n hynod falch o’r unigolion ifainc sy’n rhan o YEPS y Cyngor am eu hymdrechion diflino a’u creadigrwydd wrth hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd meddwl a chynhwysiant LHDTC+ yn rhan o’r prosiectau yma.
“Mae’r bobl ifainc a’r aelodau o staff a fu’n rhan o’r ddwy fenter ragorol wedi gosod y seiliau ar gyfer gwaith ieuenctid yn ein cymuned, ac mae’n wych gweld eu hymdrechion yn cael eu cydnabod trwy gael eu henwebu ar gyfer dwy wobr yn rhan o Wobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol 2024.
“Mae’r ymroddiad a ddangoswyd drwy’r prosiectau gwych yma’n cyd-fynd yn llwyr â nodau a gwerthoedd Cyngor RhCT. Rwy’n gobeithio gweld ein pobl ifainc yn parhau i weithio’n galed i wneud newidiadau cadarnhaol a gweithio tuag at greu cymuned fwy cynhwysol a thosturiol.
Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor RhCT ar faterion Addysg, cyfranogiad Pobl Ifainc a’r Cymraeg
Project 1: Gwobr Arloesedd Digidol – Prosiect Animeiddio Iechyd Meddwl
Cyrhaeddodd y bobl ifainc yn YEPS rownd derfynol y Wobr Arloesedd Digidol yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ieuenctid 2024 am eu prosiect Animeiddio Iechyd Meddwl.
Cymerodd pobl ifainc sy’n rhan o fforwm iechyd meddwl YEPS gam beiddgar tuag at ddileu stigma ynghylch materion iechyd meddwl a rhoi gwybod i’w cyfoedion am bwysigrwydd siarad yn agored am iechyd meddwl. Arweiniodd y bobl ifainc brosiect a gynhyrchodd animeiddiad a chynnwys digidol ychwanegol i godi ymwybyddiaeth am bynciau fel hunaniaeth rhywedd, delwedd corff, bwlio, a phryder.
Effaith
Mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol ar bobl ifainc YEPS mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r rhai a gymerodd ran wedi gwella eu hymwybyddiaeth am iechyd meddwl ac wedi creu rhywbeth i fod yn falch ohono. Yn dilyn dangosiad cyntaf yr animeiddiad, gofynnwyd i’r bobl ifainc drafod eu canfyddiadau gydag Estyn i roi gwybod iddyn nhw am y gwaith gorffenedig a sut maen nhw wedi bod yn ymwneud â dylanwadu a llywio datblygiadau strategol ar draws y Cyngor. Bydd yr animeiddiad yn cyrraedd ysgolion yn fuan, gyda chefnogaeth y cynlluniau gwersi a ddatblygwyd gan y bobl ifainc dawnus yma.
Project 2: Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyrhaeddodd Fforwm Ieuenctid Cwm Cynon restr fer rownd derfynol y wobr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Lleoliad Gwaith Ieuenctid yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol 2024.
Mae Fforwm Ieuenctid Cwm Cynon yn grŵp ysbrydoledig, ymroddedig ac angerddol o bobl ifainc sy’n cyfarfod yn wythnosol ac yn fisol, ac sydd wedi bod yn gysylltiedig â nifer o brosiectau ysbrydoledig sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i Gwm Cynon. Mae gan y bobl ifainc hyn syniadau arloesol ac maen nhw wedi creu prosiectau pwerus gyda’r nod o adeiladu cymdeithas well ar gyfer y dyfodol. Mae’r fforwm yn rhagori wrth wrando ar faterion yn y gymuned yn ogystal â’r gymuned ehangach a gweithredu ar y materion hyn.
Mae Fforwm Ieuenctid Cwm Cynon wedi hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth trwy eu cefnogaeth i’r gymuned LHDTC+, trwy weithredoedd gwir arwriaeth! Mae holl aelodau’r fforwm wedi dod yn eiriolwyr grymus sy’n barod i ysbrydoli eu cyfoedion ac oedolion.
Effaith
Mae’r bobl ifainc yn y fforwm wedi ysbrydoli pobl ifainc eraill i deimlo eu bod nhw’n perthyn, ac mae hyn yn arbennig o bwysig i’r gymuned LHDTC+, oherwydd ‘gall fod yn eithaf brawychus tyfu i fyny mewn byd lle rydych chi’n teimlo’n wahanol i bobl eraill.’
Bwriwch olwg ar rai o’u prosiectau gorffenedig isod:
Fforwm Ieuenctid Cynon – YEPS
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru