Gwybodaeth Digartref

Camau i’w cymryd os ydych chi’n meddwl bod person ifanc yn ddigartref neu’n wynebu risg digartrefedd

Gall digartrefedd fod yn broblem gudd, yn enwedig ymhlith pobl ifainc. Gallai nifer o bobl ifainc sy’n ddigartref fod yn aros ar soffas eu ffrindiau (‘sofa-surfing’), yn byw mewn llety dros dro, neu’n aros mewn lleoliadau anniogel.

Os ydych chi amau bod person ifanc rydych chi’n ei adnabod yn ddigartref neu’n wynebu risg digartrefedd, mae’n hanfodol eich bod chi’n cymryd y camau cywir er mwyn rhoi cymorth i’r person ifanc. Dyma ganllaw mewn perthynas â sut i fynd i’r afael â’r sefyllfa a sut i ddod o hyd i gymorth.

1. Adnabod arwyddion digartrefedd

Rhai arwyddion i wylio am a allai ddangos bod person ifanc mewn perygl o fod yn ddigartref yw:

  • Ydyn nhw’n absennol o’r ysgol neu’r gwaith yn aml?
  • Newid o ran sut mae’r person ifanc yn edrych – dirywiad mewn hylendid personol neu wisgo’r un dillad yn aml.
  • Ydyn nhw’n bod yn gyfrinachol neu’n osgoi trafod ble maen nhw’n byw neu’n aros?
  • Newid o ran ymddygiad – yn fwy gorbryderus, yn cadw ar wahân i bawb arall neu arwyddion o iselder.
  • Symptomau corfforol – wedi blino, wedi colli pwysau yn sydyn neu anafiadau heb esboniad.

2. Mynd i’r afael â’r sefyllfa gyda gofal

Mae’n hanfodol eich bod chi’n mynd i’r afael â’r sefyllfa mewn modd sensitif a gofalus gyda’r person ifanc. Mae’n bosibl y bydd yn teimlo cywilydd, embaras neu’n ofni cael ei feirniadu.

  • Dewch o hyd i le diogel i siarad – siaradwch gyda’r person ifanc mewn lleoliad preifat a chyfforddus lle bydd modd iddo deimlo’n ddiogel wrth drafod.
  • Peidiwch â bod yn feirniadol – gwrandewch heb dybio neu feirniadu. Rhowch wybod i’r person ifanc eich bod chi yna i’w helpu, nid i’w feirniadu.
  • Mynegwch bryder, nid piti – dangoswch eich bod chi’n pryderu am les y person ifanc a’ch bod chi eisiau ei helpu i ddod o hyd i ddatrysiadau.

3. Trefnu i’r person ifanc fanteisio ar Wasanaethau Cymorth Arbenigol

Os yw’r person ifanc yn fodlon trafod ei sefyllfa, mae modd i chi gynnig cymorth ymarferol mewn sawl ffordd:

Mae Llamau, Shelter a sefydliadau eraill yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i bobl ifainc sy’n wynebu digartrefedd. Maen nhw’n darparu llety diogel, cymorth emosiynol a chymorth ymarferol er mwyn helpu pobl ifainc i ailadeiladu eu bywydau.

  • Llety ar frys – mae Llamau yn darparu llety diogel ar frys ar gyfer pobl ifainc mewn argyfwng.
  • Cwnsela ac eiriolaeth – mae Llamau yn cynnig cymorth iechyd meddwl, ac yn eirioli ar ran pobl ifainc er mwyn sicrhau eu bod nhw’n derbyn y gwasanaethau angenrheidiol.
  • Gwasanaeth Materion Tai Rhondda Cynon Taf – 01443 495188 (y tu allan i oriau swyddfa: 01443 425011)
  • Shelter Cymru– 08000 495 495
  • Swyddog Digartrefedd Ieuenctid y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid– 07385086155 Lauren.chapman@rctcbc.gov.uk
  • Os yw rhywun mewn perygl uniongyrchol, dywedwch wrtho i ffonio 999

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl