Mae Diwygio Delweddau yn brosiect tair blynedd gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’r prosiect yn gweithio gyda gwirfoddolwyr o bob oed a gallu i nodi straeon amrywiol trigolion Rhondda Cynon Taf. Mae’r prosiect yn gwneud hyn drwy hyfforddi gwirfoddolwyr i gynnal a recordio cyfweliadau hanes llafar.
Yn gynharach eleni, estynodd Diwygio Delweddau wahoddiad at Grewyr Cynnwys y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid i weithio gyda Hannah Buckmaster o’r prosiect Diwygio Delweddau a Hugh Griffiths o Lilypad Films i gynnal cyfweliadau gydag aelodau o gymuned Rhondda Cynon Taf o Nigeria. Aeth y bobl ifainc i’r afael â’r her gan fynychu sesiwn hyfforddi yn ddiweddar oedd wedi’u haddysgu nhw am sgiliau cyfweld. Roedd hyn yn cynnwys sut i strwythuro cyfweliad, gan roi cyfle iddyn nhw ymchwilio pynciau allweddol yn ymwneud â diwylliant a threftadaeth Nigeria, a pharatoi cwestiynau ar gyfer y cyfweliadau i ddod.
Cafodd eu sgiliau newydd eu rhoi ar waith yr wythnos yma, yn ystod diwrnod llawn cyfweliadau yng Nghanolfan Calon Taf ym Mharc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd. Roedd y bobl ifainc yn gweithio gyda’i gilydd gan gynnal wyth cyfweliad oedd yn ymwneud ag amrywiaeth o bynciau diddorol, o fywyd yng nghefn gwlad Nigeria, i ddillad, bwyd a ‘drwm siarad’ traddodiadol! Bydd clipiau o’u cyfweliadau yn cael eu defnyddio mewn ffilm byr fydd yn dathlu treftadaeth, diwylliant a thraddodiadau Nigeria, fydd yn cael ei lanlwytho ar wefan dreftadaeth newydd sbon Rhondda Cynon Taf yn ddiweddarach eleni.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru