O gynilo i brynu rhywbeth newydd i dy hun, i wneud cais am grant myfyriwr, mae arian yn ffrind ac yn elyn mewn mesurau cyfartal. Os caiff ei reoli’n gywir a gyda pharch gall dy helpu i wneud pethau na allet ti fel arall, ond os caiff ei drin yn y ffordd anghywir gall dy adael mewn dyled ac mewn sefyllfa anodd.
Efallai bod eisoes gennyt gyfrif banc ac yn meddwl am y ffordd gorau i arbed dy arian, neu efallai y byddet yn edrych i gael dy swydd daledig gyntaf ac yn meddwl tybed beth yw’r isafswm cyflog cenedlaethol. Efallai y bydd gennyt hawl i gymhorthdal incwm neu fudd-daliadau ac angen cyngor ar y ffordd orau i wneud cais amdanynt.
Bydd yr adran yma yn cynnig gwybodaeth, cyngor a canllawiau o amgylch arian. Gweler isod rhestr o sefydliadau gall hefyd fod o gymorth am faterion ariannol.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru