Mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ariannol i helpu pobl i reoli eu harian.
Yn ogystal â chynnig cyfrifon cyfredol a chyfrifon cynilo, maen nhw hefyd yn cynnig cardiau credyd,benthyciadau a morgeisiau. Mae pob banc neu gymdeithas adeiladu yn wahanol a gall y gwasanaethau maent yn eu cynnig amrywio.
Cyn cofrestru ar gyfer unrhyw wasanaeth banc neu gymdeithas adeiladu, chwilia o gwmpas am y fargen orau bob amser, a pheidiwch byth â llofnodi unrhyw beth os nad ydwyt yn deall yr amodau yn llawn. Darllena’r print mân bob amser!
Os ydwyt yn poeni am dy sefyllfa ariannol, siarada â’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol am gyngor. Os oes gennyt gŵyn am fanc neu gymdeithas adeiladu, ysgrifenna at ei brif swyddfa, neu cysyllta â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, sy’n rheoleiddio’r holl fanciau a chymdeithasau adeiladu.
Citizens Advice Guide to Banking
Money Advice Service – Banking
Mathau o Gyfrifon
Mae Banciau a Chymdeithasau Adeiladu yn cynnig nifer o wahanol fathau o gyfrifon i ti eu defnyddio, gan ddibynnu ar beth rwyt ti’n bwriadu ei wneud â dy arian.
Mae cyfrifon yno i helpu ti i reoli dy arian ac i ennill arian ychwanegol ohono ar ffurf ’llog’ y bydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu yn ei roi iti. Siarada â dy fanc neu gymdeithas adeiladu leol am y cyfrifon maen nhw’n eu cynnig iti – a phaid â bod ofn chwilio am yr un sydd fwyaf addas i ti.
How to choose the right bank account
Citizens Advice – Types of bank accounts
Cyfrif Banc Sylfaenol
- Mae’r cyfrifon yma’n gadael iti dalu arian i mewn, trefnu archebion rheolaidd a debydau uniongyrchol, a chodi arian gan ddefnyddio cerdyn arian parod neu beiriant arian parod. Gweler Debyd Uniongyrchol ac Archebion Sefydlog
- Fedri di ddim mynd i orddrafft ar gyfrif sylfaenol, sy’n golygu na fedri di godi mwy o arian na’r hyn sydd gen ti yn y cyfrif. Gweler Gorddrafft
- Mae hon yn ffordd dda o ddechrau rheoli dy arian a gallet ti gael cymaint o gyfrifon sylfaenol ag wyt ti eisiau, cyn belled â’u bod nhw mewn banciau gwahanol. Maen nhw fel arfer ar gael i’r rhan fwyaf o bobl, hyd yn oed os oes ganddyn nhw broblemau â chredyd
Cyfrifon Cyfredol
- Cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu ar gyfer busnes o ddydd i ddydd neu drafodion ydy cyfrif cyfredol. Mae’n debyg i gyfrif sylfaenol
- Gallet ti gael mwy nag un cyfrif cyfredol â gwahanol fanciau neu gymdeithasau adeiladu
- Mae cyfrif cyfredol yn caniatáu iti godi arian â llyfr sieciau neu gerdyn arian parod, a thalu archebion rheolaidd a debydau uniongyrchol. Gweler Debyd Uniongyrchol ac Archebion Sefydlog, Cardiau Debyd a Credyd a Siopau.
- Gallet ti godi arian heb rybudd gyda sieciau neu o beiriant arian parod
- Efallai y byddi di hefyd yn cael cerdyn debyd, sy’n caniatáu iti dalu am eitemau mewn siopau a bwytai er enghraifft. Gweler Cardiau Debyd, Credyd a Siopau
- Bydd rhai cyfrifon cyfredol hefyd yn rhoi gorddrafft iti. Math o gredyd yw hwn sy’n caniatáu iti godi arian ychwanegol o’r cyfrif, pan nad oes gen ti arian ar ôl ynddo. Byddan nhw fel arfer yn codi ffi arnat ti am hyn
Cyfrifon Cyfredol Myfyrwyr
- Bydd rhai banciau a chymdeithasau adeiladu yn cynnig cyfrifon cyfredol myfyrwyr arbennig i bobl dros 18 oed sy’n astudio mewn sefydliad addysg uwch
- Cynlluniwyd y cyfrifon yma i helpu ti i reoli dy gyllid yn ystod dy astudiaethau, ac maen nhw’n cynnig rhai buddion penodol iti sy’n well na buddion deiliaid cyfrifon cyfredol eraill
- Mae’r rhan fwyaf o gyfrifon myfyrwyr yn cynnig bancio rhad ac am ddim a chyfleusterau gorddrafft di-log hyd at swm penodol. Mae gan lawer ohonyn nhw wasanaethau ymgynghori i fyfyrwyr hefyd, i helpu ti i reoli dy gyfrifon
- Mae llawer o fanciau a chymdeithasau adeiladu yn cynnig cymhelliant i agor cyfrif myfyrwyr, gan gynnwys taliadau arian parod yn rad ac am ddim, cardiau rheilffordd, disgownts mewn siopau neu ar lyfrau, tocynnau neu CDs. Bydd hyn yn amrywio gan ddibynnu ar le rwyt ti’n gwneud cais. Ymchwilia’r opsiwn gorau i ti. Er enghraifft, os wyt ti’n byw i ffwrdd oddi wrth dy rieni, efallai y byddai cerdyn rheilffordd yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, os wyt ti’n byw yn agos atyn nhw, efallai y byddai’n well gen ti gael taliad arian parod neu anrheg rad ac am ddim
- Mae angen iti ymchwilio i’r cyfleusterau gorddrafft di-log y mae banciau a chymdeithasau adeiladu eraill yn eu cynnig, i sicrhau dy fod di’n cael y fargen orau i ti
- Fe fydd angen prawf o dy statws myfyriwr oddi wrth y brifysgol i wneud cais
- Cofia, ni fydd y gorddrafft yn ddi-log am byth, ac fe fydd yn rhaid iti ei dalu yn ôl pan fyddi di wedi gorffen astudio, felly ceisia gadw rheolaeth arno
CYFRIFON GRADDEDIGION
- Bydd y rhan fwyaf o gyfrifon cyfredol myfyrwyr yn cael eu trosglwyddo i gyfrifon graddedigion unwaith y byddi di wedi cwblhau dy gwrs prifysgol
- Nod y cyfrifon yma yw helpu graddedigion â’u harian a’u dyledion am hyd at dair blynedd ar ôl graddio
- Byddan nhw’n aml yn parhau i gynnig gorddrafftiau di-log graddoledig am dair blynedd, gan leihau’r lefel ddi-log bob blwyddyn i helpu ti i glirio’r ddyled yn araf deg
- Bydd rhai hefyd yn cynnig buddion ychwanegol fel talebau arian-i-ffwrdd neu fenthyciadau neu forgeisiau ar gyfradd is. Gofynna i dy fanc neu gymdeithas adeiladu ynglŷn â’u cynigion, neu cer i’r adran Ddyled i gael mwy o fanylion
CYFRIF CERDYN SWYDDFA’R POST
- Dim ond ar gyfer casglu budd-daliadau, credydau treth a phensiynau’r wladwriaeth y galli di ddefnyddio’r cyfrifon yma. Gweler yradran Budd-daliadaui gael manylion y budd-daliadau yma
- Ni all talu unrhyw arian arall i mewn, a dim ond yng nghangen Swyddfa’r Post y gall ei godi
- Mae’r cyfrif yma ar gael i bron iawn bawb. Gofynna yn y Swyddfa Bost lleol am fanylion
CYFRIFON CYNILO
- Cynlluniwyd cyfrifon cynilo i helpu cynilo arian ac ennill llog arno
- Mae yna sawl math o gyfrifon cynilo, gan ddibynnu ar faint o arian rwyt ti am ei gynilo, am ba gyfnod rwyt ti am ei gynilo, a p’un a wyt ti am dalu treth ai peidio
CYFRIF CYNILO DIM RHYBUDD
- Mae’r cyfrif yma’n caniatáu iti gynilo arian, ennill llog a chodi’r arian pryd bynnag y mae ei angen arnat ti
- Bydd llawer o bobl yn defnyddio cyfrifon cynilo dim rhybudd fel cronfa argyfwng i dalu unrhyw gostau annisgwyl ar unwaith
- Fe fydd gen ti gerdyn arian parod gyda’r cyfrif, felly gallet ti godi’r arian 24 awr y dydd o unrhyw beiriant arian parod
- Ond cofia, efallai y bydd cyfyngiad ar y swm y gallet ti ei godi mewn un diwrnod o beiriant arian parod, felly cynllunia ar gyfer hyn yn dy gyllid. Bydd dy gangen yn caniatáu iti godi pob ceiniog yn dy gronfa ar yr un pryd os oes angen
- Bydd y cyfrifon cynilo dim rhybudd yn cynnig cyfradd llog is na chyfrifon cynilo eraill
- Ymchwilia’r cyfrif sy’n cynnig y gyfradd uchaf sydd ar gael, ond gwna’n siŵr bod ’dim rhybudd’ yn golygu hynny go iawn. Mae angen ychydig o ddiwrnodau ar rai banciau’r Rhyngrwyd i gael y cronfeydd atat ti, ac ni fydd hyn o unrhyw les mewn argyfwng
CYFRIFON CYNILO Â RHYBUDD
- Mae’r cyfrifon yma’n tueddu i gynnig cyfradd llog gwell gan fod yr arian wedi’i rwymo ac ni all ei godi ar unwaith
- Fel arfer, fe fydd yn rhaid iti roi rhybudd i’r banc a dweud pryd y byddi di’n codi’r arian. Fe fydd cyfnod y rhybudd mae’n rhaid iti ei roi yn amrywio
ISAS (CYFRIFON CYNILO UNIGOL) ARIAN PAROD
- Mae’r cyfrifon cynilo yma’n caniatáu iti gynilo ac ennill yn ddi-dreth
- Mae’r rhan fwyaf o ISAs arian parod yn cynnig bargen well na’r rhan fwyaf o gyfrifon cynilo â rhybudd
- Mae angen rhybudd o 90 diwrnod i godi’r arian o rai ISAs arian parod. Os wyt ti’n meddwl y bydd angen iti godi’r arian ar frys, byddai’n well iti ddewis ISA Arian Parod Dim Rhybudd sy’n caniatáu iti godi’r arian cyn gynted ag y mae ei angen arnat ti
- Efallai y bydd rhywfaint o gyfyngiad ar y nifer o weithiau y gallet ti godi arian bob blwyddyn
- Mae ISAs Arian Parod yn fwy addas ar gyfer cynilo yn rheolaidd bob mis
- Gofynna i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu ynglŷn â’r hyn sydd ar gynnig iti
- O’r 1af o Orffennaf 2014, bydd ISAs Arian Parod ac ISAs stociau a chyfranddaliadau yn cael eu cyfuno i mewn i NISA sengl newydd, gyda therfyn llawer uwch o £15,000 y flwyddyn
SUT YDW I’N AGOR CYFRIF?
Os wyt ti am agor cyfrif, gwna dy ymchwil yn gyntaf. Ymchwilia i’r hyn y mae’r banciau a’r cymdeithasau adeiladu yn ei gynnig, a dewisa’r un sy’n iawn i ti. Cymhara’r cyfraddau llog a’r cymhellion.
Fe fydd angen iti fynd â rhyw fath o brawf o bwy wyt ti er mwyn agor y cyfrif. Diben hyn yw profi mai ti ydy’r person rwyt ti’n honni bod. Fel arfer, byddan nhw’n gofyn i weld dy basport a phrawf cyfeiriad, ond gofynna i’r gangen ynglŷn â hyn cyn cyrraedd fel dy fod di’n gallu sicrhau bod y dogfennau cywir gen ti wrth law.
Os wyt ti am gael help i ddewis y cyfrif iawn, gweler canllaw Money Advice Service o sut i ddewis y cyfrif banc gywir.
Cofia, mae dy gyfrif yn gyfrinachol a dim ond y ti ddylai ei ddefnyddio (oni bai dy fod wedi agor cyfrif ar y cyd). Paid byth â rhoi dy rif PIN na cherdyn i unrhyw un dan unrhyw amgylchiadau – hyd yn oed os wyt ti’n meddwl y gallet ti ymddiried ynddyn nhw.
ORDDRAFFT
Mae gorddrafft yn caniatáu iti godi mwy o arian nag sydd gen ti yn dy gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu am gost.
- Er eu bod nhw’n eithaf cyffredin, fe ddylet ti feddwl yn ofalus cyn cytuno ar orddrafft neu cyn mynd i orddrafft
- Mae yna ffioedd sylweddol i’w talu am fynd i orddrafft, yn enwedig os nad wyt ti wedi cytuno ar orddrafft â’r banc. Bydd y ffioedd yn amrywio gan ddibynnu ar y banc neu’r gymdeithas adeiladu
- Pan fyddi di’n cytuno ar orddrafft, fe fydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu yn gosod lefel benodol na allet ti fynd y tu hwnt iddi, ond bydd yn dal i godi ffi arnat ti am ei ddefnyddio. Gwna’n siŵr dy fod di’n cadw o fewn y cyfyngiad yma neu fe allai’r ffioedd fod yn uwch fyth
- Bydd rhai myfyrwyr addysg uwch yn cael gorddrafftiau di-log ac ni fydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu yn codi ffi arnyn nhw am fynd i orddrafft, ond trefniant arbennig â’r banc yw hyn
- Os wyt ti’n debygol o fynd i orddrafft yn rheolaidd, trefna orddrafft sydd wedi’i awdurdodi; bydd hyn yn caniatáu iti fynd i orddrafft hyd at swm y byddet ti wedi cytuno arno. Efallai y bydd yn rhaid iti dalu ffi neu log misol, neu’r ddau o bosib, ac efallai y byddi di hefyd yn gorfod talu ffi am bob trafod a wneir tra bo’r cyfrif mewn gorddrafft. Ond mae gorddrafft sydd wedi’i awdurdodi yn rhatach nag un sydd heb ei awdurdodi
- Mae’n annhebygol y byddi di’n cael cynnig gorddrafft os wyt ti dan 16 oed
- I drefnu gorddrafft, gwna apwyntiad yn dy gangen leol, neu ffonia dy fanc neu gymdeithas adeiladu. Bydda’n barod i siarad am sut rwyt ti’n bwriadu talu’r gorddrafft yn ôl
- Cofia mai dyled yw gorddrafft, ac mae’n rhaid iti ei dalu yn ôl
Os wyt ti’n ei chael yn anodd talu’r gorddrafft yn ôl, siarada â’r banc am ffyrdd o helpu, neu â’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth i gael cyngor ar reoli dyled. Mae yna ffyrdd o helpu i fynd i’r afael â gorddrafft.
Gallet gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun – Gwener 8am – 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.
Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).
Money Advice Service guide to overdrafts
DEBYD UNIONGYRCHOL AC ARCHEBION SEFYDLOG
Y GWAHANIAETH RHWNG DEBYDAU UNIONGYRCHOL AC ARCHEBION SEFYDLOG
- Mae Debyd Uniongyrchol yn rhoi caniatâd i gwmni gymryd arian o’th gyfrif banc ar ddyddiad y cytunwyd arno
- Mae Archebion sefydlog yn rhoi cyfarwyddyd i’r banc talu’r union swm i gyfrif arall yn rheolaidd
DEBYD UNIONGYRCHOL (DIRECT DEBIT)
Mae debyd uniongyrchol yn gyfarwydd i dy fanc neu gymdeithas adeiladu i dynnu swm o arian o dy gyfrif yn awtomatig i dalu sefydliad yn rheolaidd. Bydd hyn yn cael ei drefnu gennyt ti ac yn cymryd swm o arian wedi’i drefnu o flaen llaw ar ddyddiad penodol, fel arfer unwaith y mis.
Mae’n ffordd gyffredin i dalu biliau, rhoddion elusennol, yswiriant neu ad-daliadau benthyciad.
Mae yna sawl budd i gael debyd uniongyrchol:
- Mae’n sicrhau nad wyt ti’n methu dyddiad taliad ac yn achosi treuliau ychwanegol
- Mae’n gadael i ti ledaenu’r gost
- Mae’n ddiogel ac yn ddibynadwy ac yn cynnig gwarant arian yn ôl os yw unrhyw beth yn mynd o’i le
Cyn i ti drefnu debyd uniongyrchol, mae angen gwybod yn union faint byddi di’n talu a pa mor aml. Weithiau byddi di’n talu llai yn gyffredinol drwy dalu debyd uniongyrchol ac weithiau gallet ti dalu mwy. Gwna’r fathemateg a dewis yn ddoeth.
Gall debyd uniongyrchol gael ei drefnu drwy alw’r banc neu’r cymdeithas adeiladu. Weithiau bydd y sefydliad rwyt ti’n ei dalu yn trefnu hyn ar dy ran gyda chaniatâd, ond rhaid gwirio beth sydd wedi cael ei drefnu gyda dy fanc cyn i ti wneud unrhyw daliadau.
Bydd angen i ti hefyd gael gwybod am bolisi canslo’r sefydliad yr ydwyt yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, rhag ofn y byddi di’n dymuno canslo’r Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg.
Gall debyd uniongyrchol gael ei drefnu drwy alw’r banc neu dy gymdeithas adeiladu. Weithiau, bydd y sefydliad yr ydwyt yn talu yn trefnu hyn ar dy ran gyda dy ganiatâd, ond hola dy fanc bob amser i weld yr hyn sydd wedi cael ei drefnu cyn i ti wneud unrhyw daliadau.
Gall Debyd Uniongyrchol cael ei ganslo trwy ffonio dy fanc neu gymdeithas adeiladu. Rho wybod i’r sefydliad yr ydwyt yn ei dalu am y canslad hwn. Os ydwyt yn poeni am ddebydau uniongyrchol, siarada â dy fanc neu gymdeithas adeiladu neu ymgynghorydd yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu edrycha ar y wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.
ARCHEB SEFYDLOG (STANDING ORDER)
Mae archeb sefydlog yn debyg i ddebyd uniongyrchol. Mae’n drefniad i drosglwyddo arian o gyfrif banc un person i un arall yn rheolaidd, ond gall gymryd hyd at dri i bedwar diwrnod i’r arian gyrraedd y cyfrif newydd, yn wahanol i ddebyd uniongyrchol sydd yn digwydd yn syth.
Mae angen yr amser yma i sicrhau bod y cyllid gofynnwyd amdano ar gael yn y cyfrif cyn iddo gael ei symud i gyfrif y taledig. Er ei fod yn broses mwy araf nag debyd uniongyrchol, bydd arian yn cael ei drosglwyddo yn fwy sydyn nag siec.
Os wyt ti’n defnyddio archeb sefydlog i dalu am filiau neu ad-daliadau, rhaid caniatáu o leiaf tri i bedwar diwrnod cyn y dyddiad talu i greu’r archeb sefydlog. Bydd yn osgoi tâl yn cael ei godi am dalu’n hwyr os nad fydd y cyllid wedi clirio mewn digon o amser.
Gallu di drefnu archeb sefydlog gyda dy fanc neu gymdeithas adeiladu. Fel gyda debyd uniongyrchol, sicrha dy fod di’n deall faint a pa mor aml bydd arian yn mynd allan o dy gyfrif.
Gallet gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun – Gwener 8am – 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.
Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).
UNDEBAU CREDYD
Mae undebau credyd yn groes rhwng cydweithfa a banc. Maent yn cael eu sefydlu gan bobl sydd â diddordeb cyffredin, megis lle maent yn byw neu’n gweithio, ac yn cynnig benthyciadau llog isel, cynilion ac weithiau cyfrifon banc. Maen nhw wedi bod o gwmpas ers y 1940au, ond yn y blynyddoedd diwethaf wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith gynilwyr a benthycwyr.
- Mae gan undebau credyd ’gysylltiad cyffredin’ sy’n pennu pwy sy’n cael ymuno. Er enghraifft, fe allai fod ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn cwmni penodol, pobl sy’n byw yn yr un ardal neu sy’n perthyn i’r un sefydliad, fel eglwys neu glwb
- Unwaith y byddi di’n aelod o undeb credyd, gallet ti ddechrau ar ei gynllun cynilo. Gall gynilo cymaint neu gyn lleied ag yr wyt ti eisiau, a hynny mor aml ag yr wyt ti eisiau. Fel arfer, gallet ti dalu hwn i mewn i siop leol neu fan casglu, neu yn uniongyrchol allan o dy gyflog
- Bydd undebau credyd fel arfer yn talu difidend ar gynilion unwaith y flwyddyn i bob un o’i aelodau
- Mae yswiriant cynilion bywyd fel arfer wedi’i gynnwys, yn rhad ac am ddim i’r aelod
- Gallan nhw hefyd gynnig Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant ar sail arian barod i’w holl aelodau
- Gallet ti hefyd fenthyca oddi wrth undeb credyd. Mae undebau credyd yn gweithredu er budd holl aelodau ac felly yn ceisio sicrhau nad ydynt yn gadael i’w haelodau cymryd benthyciadau na allant dalu yn ôl drwy asesu eu hincwm ac, mewn rhai achosion, faint y maent wedi gallu cynilo. Mae hefyd cap ar faint o log y gallant ei godi ar eu benthyciadau o 3 y cant y mis neu APR o 42.6 y cant y flwyddyn, sydd yn llawer rhatach na benthycwyr carreg y drws neu fenthycwyr diwrnod cyflog
- Mae yswiriant bywyd hefyd wedi’i gynnwys mewn benthyciad, yn rhad ac am ddim
- Pan fyddi di’n benthyca oddi wrth undeb credyd, gallet ti hefyd barhau i gynilo. Mae hyn yn golygu y bydd y cynilion wedi tyfu erbyn y byddi di wedi gorffen talu’r benthyciad yn ôl
- Siarada â’r undeb credyd lleol ynglŷn â’r hyn sydd ar gynnig iti
- Nid oes angen iti fod â chyfrif banc i fod yn aelod o undeb credyd. Yn wir, bydd nifer o undebau credyd yn cynnig cyfleuster talu biliau i alluogi unigolion nad oes ganddyn nhw gyfrifon banc i fanteisio ar y gallu i dalu am eu cyfleustodau yn gost effeithiol. Gall yr undeb credyd hefyd dderbyn budd-daliadau sy’n cael eu talu iti ar dy ran os wyt ti am iddo wneud hynny. Yna gallet ti godi’r arian o’r undeb credyd ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd
- Os oes gen ti ddiddordeb mewn ymuno ag undeb credyd, ceisia ddarganfod a yw’r cwmni rwyt ti’n gweithio iddo yn gweithredu un, neu gofynna i’r awdurdod lleol am restr o undebau credyd yn y gymuned yn dy ardal di. Bydd gan Gymdeithas Undebau Credyd Prydain restr hefyd neu allu di dilyn y ddolen yma i ddod o hyd i dy undeb credyd agosaf
Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol un neu ddau o adrannau ar undebau credyd, gan gynnwys:
Citizens Advice – Saving with a Credit Union
Gallet gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun – Gwener 8am – 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.
Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru