Yn yr adran hon cewch wybodaeth am alcohol, a Sefydliadau y gallwch gysylltu ar gyfer Cymorth, Cyngor ac Arweiniad.
Alcohol
Mae alcohol yn gyffur sy’n gyfreithiol i’w ddefnyddio os ydych dros 18 oed; mae hyn yn cynnwys diodydd alcoholig, fel cwrw, gwin a gwirodydd.
Yn fwy na hynny, gall alcohol gael effeithiau negyddol ar eich iechyd corfforol a meddyliol. Mae’n bwysig yfed yn gymedrol. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am sut i yfed yn gyfrifol a sut i gadw golwg ar eich unedau alcohol, edrychwch ar Drinkaware YMA.
Mae rhai o effeithiau alcohol yn cynnwys:
- llai o ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas
- lleihau eich amseroedd ymateb, gan gynyddu’r risg o ddamweiniau’n digwydd
- fwy o hyder, sy’n wneud i chi deimlo’n anorchfygol a all arwain at wneud penderfyniadau gwael
- fwy agored i niwed sy’n caniatáu i eraill fanteisio arnoch chi
- cynnydd mewn tueddiadau treisgar
- yfed gormod wneud i chi chwydu a pasio allan. Mae hyn yn gadael chi’n agor i niwed ac yn dueddol o dagu
- gall yfed gormod dros gyfnod hir achosi niwed i’ch calon, eich stumog a’ch ymennydd
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am alcohol, ei effeithiau, a’r cyfreithiau sy’n cwmpasu’r pwnc hwn, ewch i FRANK sy’n darparu llawer o wybodaeth ddefnyddiol.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cymorth, Cyngor ac Arweiniad ar gyfer alcohol, gallwch edrych ar y sefydliadau hyn: Drinkaware, DAN 24/7, Childline, ac AlcoholChangeUK.
Dyma restr o wasanaethau sy’n gallu cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth os ydych chi’n poeni amdanoch chi’ch hun neu rywun arall:
TEDS – Rydym yn asiantaeth wirfoddol sy’n cynnig gwasanaethau AM DDIM a CHYFRINACHOL i ddefnyddwyr cyffuriau neu alcohol yng Nghwm Taf.
DAN 24/7 – Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru.
FRANK – Darganfyddwch bopeth y mae angen i chi ei wybod am gyffuriau, eu heffeithiau a’r gyfraith. Siaradwch â Frank am ffeithiau, cefnogaeth a chyngor ar gyffuriau ac alcohol heddiw.
Barod – Cyngor a chymorth cyfrinachol, di-farn di-dâl.
Childline – Mynnwch gymorth a chyngor ar ystod eang o faterion, ffoniwch ni ar 0800 1111, siaradwch â chwnselydd ar-lein, anfonwch e-bost neu bostiwch ar y byrddau negeseuon.
AlcoholChangeUK – Mae Alcohol Change UK yn elusen alcohol flaenllaw yn y DU.
Drinkaware – Cyngor, gwybodaeth ac offer annibynnol i helpu pobl i wneud dewisiadau gwell am yfed alcohol.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru