
Yn yr adran hwn fe welwch wybodaeth am E-smygu ac ysmygu, a Sefydliadau y gallwch gysylltu â nhw am Gymorth, Cyngor ac Arweiniad.
E-Sigaréts / E-smygu
Cynlluniwyd e-sigaréts i gymryd lle sigaréts a helpu pobl sy’n gaeth i ysmygu. Mae’r dyfeisiau yn cynnwys hylif sy’n gallu cynnwys nicotin ac sy’n dod mewn amrywiaeth o flasau.
Nid yw hyn rhy hwyr i roi gorau i ysmygu, a phan wnewch chi, mae’r risgiau i’ch iechyd yn gostwng yn sylweddol. Rydych chi’n pesychu llai ac yn teimlo llai o anadl, cyfradd curiad eich calon yn arafu, a’ch risg o glefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn llawer is. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y fanteision o stopio ysmygu, edrychwch ar restr Help Me Quit YMA.
Ysmygu
Ysmygu yw’r achos am mwyafrif o’r marwolaethau y gellir eu hatal, a bydd 1 o bob 2 ysmygwr yn marw o glefyd sy’n gysylltiedig ag ysmygu.
I gael rhagor o wybodaeth am anweddu neu ysmygu neu os ydych yn chwilio am help i roi’r gorau iddi, gallwch edrych ar y sefydliadau hyn sy’n cynnig Cymorth, Cyngor ac Arweiniad:
Cancer Research – A yw e-sigaréts yn niweidiol?
NHS – E-Sigaréts i stopio ysmygu
Ash Wales – Ein cenhadaeth yw sicrhau Cymru ddi-fwg – wedi’i diffinio fel dim ond 5% sy’n dal i ysmygu – drwy ymdrechu i gael polisi rheoli tybaco cryf ar ddraws Cymru.
Help Me Quit – Dechreuwch eich taith i roi gorau iddi, gyda Help Me Quit a gymorth o’r NHS am ddim. Cysylltwch â ni heddiw am fory di-fwg.
Smokefree – Ymunwch â’r miliynau o bobl sydd wedi defnyddio cymorth di-fwg i’w helpu i roi’r gorau i ysmygu. Mae gennym lawer o gefnogaeth i’ch helpu i roi’r gorau iddi, felly dewiswch beth sy’n iawn i chi.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru