Rwyt ti’n wirfoddolwr pan fyddi di’n rhoi dy amser i wneud rhywbeth i achos da heb dâl. Fel gwirfoddolwr fedri di wneud cyfraniad enfawr i dy gymuned a chymdeithas.
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddod i gyfarfod pobl newydd, magu hyder, sgiliau a phrofiad.
Gallai roi syniad da i ti o sut beth ydy swydd neu yrfa benodol cyn i ti geisio am waith taledig. Gallai fod yn beth da i gael ar dy CV os wyt ti wedi rhoi dy amser rhydd i wneud rhywbeth buddiol a bydd darpar gyflogwyr yn gwerthfawrogi hyn. Yn aml mae elusennau a sefydliadau eraill angen cymorth gan wirfoddolwyr i wneud eu gwaith fel y gallant wella bywydau pobl eraill.
- Gall ddewis o filoedd o gyfleoedd, yng Nghymru, y DU a dramor. Mae yna lawer iawn o gyfleoedd ar gael yn ddibynnol ar ble rwyt ti’n byw a faint o amser fedri di ei roi
- Gall gwirfoddolwyr helpu mewn nifer o wahanol ffyrdd, gallet ti weithio gyda phlant a phobl ifanc, gydag anifeiliaid neu yn helpu’r amgylchedd neu yn edrych ar ôl yr henoed
- Mae faint o amser ac ymrwymiad ti’n ei roi i wirfoddoli yn fater i ti. Mae rhai pobl yn gwirfoddoli yn wythnosol, eraill am wythnosau, misoedd, ac mae rhai pobl yn gwirfoddoli flwyddyn ar ôl blwyddyn
- Bydd cyfleoedd gwirfoddoli dramor yn cyflwyno ti i ddiwylliannau a phrofiadau newydd a gallai helpu i ddatblygu dy annibyniaeth a hyder
Os oes gen ti ddiddordeb mewn gwirfoddoli gallet ti gychwyn drwy feddwl faint o oriau gallet ti gynnig. Yna gallet ti feddwl am ba fath o wirfoddoli hoffet ti wneud a pa sgiliau a gwybodaeth sydd gen ti i gynnig
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru