Techneg S.T.A.R.
Testun yr wythnos yma yw ffurflenni cais ac, yn benodol, cwestiynau sy’n seiliedig ar gymwyseddau. Mae’r cwestiynau yma wedi dod yn boblogaidd iawn gyda sefydliadau sy’n recriwtio, colegau a phrifysgolion. Bydd y gallu eu hateb yn gywir ac yn effeithiol yn hanfodol i’ch llwyddiant yn y broses ymgeisio a chyfweld. Dyma fideo byr gan Nicola i’ch cyflwyno chi i’r pwnc. Mae rhai deunyddiau ategol a darllen pellach isod.
Yr holl syniad y tu ôl i gyfweliad yn seiliedig ar sgiliau yw’r ffaith mai’r arwydd gorau o sut y bydd rhywun yn ymddwyn yn y dyfodol yw sut y mae ef neu hi wedi ymddwyn neu weithredu yn y gorffennol pan roedd mewn sefyllfa debyg.
Mae cyflogwyr yn defnyddio’r dechneg cyfweld ymddygiadol i werthuso profiadau ac ymddygiadau pobl fel bo modd iddyn nhw bennu potensial yr ymgeisydd i lwyddo. Mae hyn yn golygu ein bod ni eisoes yn gwybod o’r cychwyn cyntaf bydd cwestiynau yn cael eu gofyn inni a fydd yn arwain at roi enghreifftiau o sut rydyn ni wedi gwneud pethau yn y gorffennol.
Mae rhoi enghreifftiau o sut rydych chi wedi gwneud rhai pethau yn y gorffennol yn dda, ond mae yna fformatau i ni eu dilyn i’n helpu ni i roi’r ateb gorau posib. Heddiw byddwn ni’n edrych ar y dechneg STAR.
Sefyllfa a
Tasg |
Disgrifiwch y sefyllfa roeddech chi ynddi neu’r dasg roedd angen i chi ei chyflawni. Rhaid i chi ddisgrifio digwyddiad neu sefyllfa benodol. Peidiwch â rhoi disgrifiad cyffredinol o’r hyn rydych chi wedi’i wneud yn y gorffennol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi digon o fanylion i’r cyfwelydd fel ei fod e’n deall. Mae’n bosibl i’r sefyllfa yma fod o swydd flaenorol, o brofiad wrth wirfoddoli, neu unrhyw ddigwyddiad perthnasol. |
Camau a gymerwyd gennych chi | Disgrifiwch y camau a gymeroch chi, a gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r ffocws arnoch chi. Hyd yn oed os ydych chi’n trafod prosiect neu ymdrech grŵp, disgrifiwch yr hyn a wnaethoch chi – nid ymdrechion y garfan. Peidiwch â dweud wrthyn nhw beth y byddech chi’n ei wneud; dywedwch wrthyn nhw beth wnaethoch chi mewn gwirionedd. |
Canlyniadau wnaethoch chi gyflawni | Beth ddigwyddodd? Sut daeth y digwyddiad i ben? Beth gyflawnoch chi? Beth ddysgoch chi? |
Dyma rhai enghreifftiau o gwestiynnau cyfweliad allwch chi argraffu adref a ymarfer.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru