Mae dod yn blentyn sy’n derbyn gofal neu fod mewn gofal yn golygu bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am benderfynu pwy sy’n gofalu amdanat ti a ble rwyt ti’n byw.
Efallai dy fod ti wedi dod yn blentyn sy’n derbyn gofal oherwydd bod rhywun yn poeni am dy ddiogelwch di.
Bydd dy weithiwr cymdeithasol yn siarad â thi a’th deulu ynglŷn â ble byddi di’n byw, mynd i’r ysgol a sut i’th helpu di i gadw mewn cysylltiad â’r bobl sy’n bwysig i ti. Dylet ti gael dy gynnwys ym mhob penderfyniad sy’n ymwneud â dy fywyd di.
Os wyt ti’n teimlo bod dy farn di ddim yn cael ei chlywed, mae modd i ti siarad ag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo/ynddi, dy weithiwr cymdeithasol, dy Swyddog Adolygu Annibynnol neu eiriolwr.
Dyma fideo gan elusen Childline a fydd yn dy helpu di trwy ddangos sut brofiad yw bod mewn gofal maeth.
Pam ydw i’n derbyn gofal?
Mae plentyn sy’n derbyn gofal yn derbyn gofal am ddau reswm:
- Mae’r llys teulu wedi gwneud Gorchymyn Gofal
- Mae plentyn yn lletya gyda chytundeb rhieni/gwarcheidwad.
Beth yw ystyr Gorchymyn Gofal?
Mae Gorchymyn Gofal yn golygu bod y llys wedi penderfynu y dylai’r Gwasanaethau i Blant rannu cyfrifoldebau rhianta ar y cyd â dy rieni di er mwyn dy ddiogelu a gwneud penderfyniadau pwysig ar dy ran di. Bydd Gwarcheidwad Plentyn yn cwrdd â thi yn y llys ac yn dy gynrychioli di.
Beth yw ystyr ‘Lletya’?
Os rwyt ti’n lletya, mae hynny’n meddwl bod y Gwasanaethau i Blant a dy rieni di wedi cytuno mai’r peth gorau i ti yw derbyn gofal am gyfnod tra dy fod ti a nhw’n cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Gorchymyn Gofal a Lletya?
Pan fyddi di’n lletya, fydd y Gwasanaethau i Blant ddim yn rhannu cyfrifoldebau rhiant, felly fe fydd angen i’r Gwasanaethau i Blant ofyn am gydsyniad dy rieni di am lawer mwy o bethau.
Os wyt ti’n ansicr ynglŷn ag ai Gorchymyn Gofal sydd yn ei le i ti, neu a wyt ti’n lletya, mynna air â dy weithiwr cymdeithasol.
Beth yw Cynllun Gofal a Chymorth?
Mae gan bob plentyn sy’n derbyn gofal Gynllun Gofal a Chymorth. Mae’r gweithiwr cymdeithasol yn llenwi’r cynllun yma gyda thi a dy deulu. Mae dy gynllun gofal a chymorth di’n cynnwys manylion am dy leoliad, iechyd ac addysg di, ynghyd â dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae’n nodi’r hyn dylai pobl wahanol fod yn gwneud gyda thi ac ar dy ran di.
Mae copi o dy Gynllun Gofal a Chymorth ar gael os nad oes un gen ti’n barod.
Pa mor aml dylwn i dderbyn ymweliad?
Dylai dy weithiwr cymdeithasol ymweld â thi yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl i ti symud i dy gartref newydd. Yn dilyn hynny, bydd ef neu hi’n dod i dy weld di o leiaf unwaith bob 6 wythnos yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Gweithwyr Cymdeithasol
- Bydd gan bob plentyn sy’n derbyn gofal ei weithiwr cymdeithasol ei hun. Y Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n cyflogi’r gweithwyr cymdeithasol. Mae’r gwasanaeth yn sefydliad llywodraethol sy’n bodoli er mwyn helpu pobl i gael yr ansawdd bywyd gorau posibl.
- Swydd gweithwyr cymdeithasol yw dy helpu di a dy deulu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch chi. Byddan nhw’n ceisio sicrhau dy fod ti’n gallu dychwelyd i fyw gyda dy deulu cyn gynted â phosib.
- Dy weithiwr cymdeithasol sy’n gyfrifol am sicrhau bod dy addysg, iechyd, diogelwch a lles cyffredinol di’n cael eu diwallu wrth i ti dderbyn gofal. Bydd gan bob plentyn sy’n derbyn gofal ‘gynllun gofal’ sy’n nodi’r trefniadau dyddiol ar gyfer dy ofal. Mae modd i ti drafod hyn gyda dy weithiwr cymdeithasol.
- Byddi di’n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda dy weithiwr cymdeithasol trwy gydol yr amser y byddi di’n derbyn gofal. Byddi di hefyd yn cael cyfarfodydd adolygu er mwyn trafod sut wyt ti’n teimlo am y sefyllfa. Mae dy weithiwr cymdeithasol yna i dy amddiffyn di ac i ofalu amdanat ti. Os wyt ti’n pryderu am unrhyw beth, mae modd i ti siarad â fe/hi.
- Bydd ef/hi ar gael i ti pan ddaw’r amser i ti adael y system ofal.
Swyddog Hawliau Plant
- Mae hawl gan bob plentyn sy’n derbyn gofal yr hawl i weld ei ffeiliau personol. Mae’r rheiny’n cynnwys gwybodaeth benodol amdanat ti, dy deulu, dy addysg a dy iechyd di, ynghyd â dy gynllun gofal di a’r rhesymau pam rwyt ti’n derbyn gofal. Mae’r wybodaeth sydd yn y ffeil yn gyfrinachol i’r awdurdod lleol yn unig.
- Bydd sefyllfaoedd yn codi pan na fyddi di’n cael gweld dy ffeil, ond bydd hyn yn digwydd mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Os bydd hyn yn digwydd, mae modd i ti gysylltu â Swyddog Hawliau Plant yr awdurdod lleol a fydd yn ymchwilio i’r rhesymau pam nad oes modd i ti weld dy ffeil.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru