Help i leisio eich barn – Eiriolaeth a Chwynion

Mae gyda chi hawl i leisio eich barn, eich dymuniadau a’ch teimladau. 

Os oes angen help arnoch i leisio eich barn, gallwch chi ofyn am eiriolwr i wneud hynny.

Mae Eiriolwr yn berson annibynnol, sydd ddim yn gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf, sydd yn gallu eich help chi i leisio eich barn neu eich pryderon. Gall hefyd siarad ar eich rhan os byddwch chi’n dymuno.

Gallwch chi siarad ag eiriolwr am lawer o bethau gwahanol, er enghraifft:

  • Dydw i ddim yn hoffi’r hyn sy’n digwydd
  • Rydw i eisiau i bethau newid
  • Dydw i ddim yn hapus lle rydw i’n byw
  • Dydw i ddim yn deall
  • Rydw i’n cael fy mwlio
  • Rydw i eisiau aros lle rydw i

Beth MAE’R EIRIOLWR YN ei wneud?

Dydy’r eiriolwr ddim yn penderfynu beth sy’n dda neu’n wael i chi. Does dim barn gyda nhw ar yr hyn y dylech chi ei ddweud neu ei wneud. Gwaith yr eiriolwr yw cefnogi’r hyn rydych chi ei eisiau.

Gall eiriolwr fynd gyda chi i’ch cyfarfodydd adolygu, ac i gyfarfodydd eraill, i’ch cefnogi chi, i siarad ar eich rhan os byddwch chi’n teimlo’n nerfus, neu, mewn rhai achosion, gall yr eiriolwr fynd yno ar eich rhan.

Os byddwch chi’n penderfynu cwyno, gall eiriolwr eich helpu chi i wneud hynny.

Os hoffech chi siarad ag eiriolwr, gofynnwch i’ch gweithiwr cymdeithasol neu’ch Swyddog Adolygu Annibynnol, neu ewch i wefan Tros Gynnal Plant: https://www.tgpcymru.org.uk/cy/ neu eu ffonio nhw ar 08000 4703930/01443 805940.

Am rhagor o wybodaeth ar eiriolaeth gwyliwch yr fideo isod:

Ymwelwyr Annibynnol

Mae’r ymwelwyr annibynnol yn wirfoddolwyr sy’n dewis treulio rhywfaint o’u hamser rhydd gyda phlant a phobl ifainc sy’n derbyn gofal.

Maen nhw’n ceisio dod i adnabod y plant a’r bobl ifainc maen nhw’n ymweld â nhw. Gallen nhw wneud hyn drwy gynnal gweithgareddau, neu wrth siarad a gwrando mewn lleoliad arall.

Fel arfer, mae’r Ymwelwyr Annibynnol yn cefnogi pobl sydd heb unrhyw gyswllt â’u teuluoedd, neu ychydig iawn o gyswllt â’u teuluoedd, ac sydd eisiau rhywun sy’n dewis treulio amser gyda nhw.

Os hoffech chi gael Ymwelydd Annibynnol, gofynnwch i’ch gweithiwr cymdeithasol neu’ch Swyddog Adolygu Annibynnol, neu ewch i wefan https://www.tgpcymru.org.uk/cy/

 

Gwneud Cwyn

Os ydych chi’n anhapus, neu os ydych chi’n poeni am rywbeth, peidiwch â chadw’n dawel. Dylech chi ddweud wrth rywun rydych chi’n ymddiried ynddo.

Os ydych chi o’r farn bod neb yn gwrando arnoch chi, a does dim byd yn newid, gallwch chi gwyno.

Mae llawer o bethau gallwch chi gwyno amdanyn nhw, er enghraifft:

  • Dydw i ddim yn hapus yn fy lleoliad ac rydw i eisiau symud
  • Mae fy ngweithiwr cymdeithasol yn newid yn gyson
  • Does neb yn gwrando arna i
  • Dydw i ddim yn hapus gyda’r ffordd rydw i’n cael fy nhrin
  • Mae’r broses yn araf iawn
  • Roeddwn i wedi ymgartrefu yn fy lleoliad diwethaf, ac rydych chi wedi fy symud i leoliad arall erbyn hyn

Mae llawer o ffyrdd gwahanol o gwyno. Cewch chi ofyn am eiriolwr. Bydd yr eiriolwr yn esbonio’r broses gwyno i chi a bydd e/hi wrth eich ochr bob cam o’r ffordd.

Ond, does dim rhaid i chi gwyno drwy eiriolwr. Cewch chi ofyn i unrhyw oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo gwyno ar eich rhan, neu cewch chi gwyno eich hun.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gwyno, ffoniwch Uned Cwynion y Gwasanaethau i Blant ar (0800) 5877324 (rhadffôn) neu anfon e-bost i gwrando.cwynion@rhondda-cynon-taf.gov.uk

 

Rhywbeth i ddweud?