
Yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth a sefydliadau a all eich cefnogi gyda hawliau pobl ifanc
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhestr o addewidion a wnaed i Blant a Phobl Ifainc i helpu i’w hamddiffyn a rhoi’r cyfle gorau posibl iddyn nhw ffynnu a dod y bobl orau y mae modd iddyn nhw fod.
A chithau’n bobl ifainc, maen nhw’n effeithio ar eich bywyd bob dydd, a dylech chi wybod beth ydyn nhw fel eich bod chi’n gwybod eich bod chi’n cael mynediad atyn nhw.
Pe hoffech chi wybod rhagor am Genhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, bwriwch olwg ar y dolenni isod am ragor o wybodaeth:
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – UNICEF UK
Crynodeb UNCRC
Dogfen lawn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Democratiaeth, Gwleidyddiaeth a Chi
Mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar bopeth o’ch cwmpas chi bob dydd, o faint mae’r bws yn ei gostio, i bris bwyd, beth bynnag rydych chi’n ei ddysgu yn yr ysgol neu’r coleg, ac mae hynny’n enwi ychydig o bethau.
Mae pobl ifainc yn cael cyfle i leisio eich barn ar raddfa genedlaethol drwy brosiectau megis Senedd Ieuenctid Cymru a Senedd Ieuenctid y DU. Mae prosiectau o’r fath yn rhoi llais i bobl ifainc ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru a’r DU drwy gael cyfle i bobl ifainc siarad â gwleidyddion a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a cheisio dylanwadu ar newid i bobl ifainc.
Mae modd i wleidyddiaeth edrych yn ddryslyd ond os hoffech chi ddysgu rhagor am wleidyddiaeth eich hun, neu os ydych chi’n rhan o gyngor ysgol, Senedd neu gyngor ieuenctid, ac yn meddwl yr hoffai eich grŵp ddysgu rhagor, bwriwch olwg ar y dolenni isod, neu i gael sesiwn am wleidyddiaeth a democratiaeth y DU a Chymru wedi’i chyflwyno i’ch grŵp e-bostiwch Allyn ar allyn.jones@rctcbc.gov.uk
Voting Counts: Your UK election questions answered
Hafan | Y Comisiwn Etholiadol
Senedd Ieuenctid Cymru
Senedd Ieuenctid y DU – Asiantaeth Ieuenctid Cenedlaethol
Ymgynghoriad
A chithau’n bobl ifainc, mae gyda chi’r hawl i gael eich cynnwys mewn pethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch bywyd. Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ymgynghoriadau ar agor i aelodau’r cyhoedd i gael dweud eu dweud.
Mae gan Wasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid hefyd fforymau ieuenctid y mae modd i bobl ifanc gymryd rhan ydyn nhw, sy’n rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud am yr hyn sy’n digwydd yn eich cymuned a bwydo i mewn i newid ehangach ar draws Rhondda Cynon Taf, mae modd i chi hefyd gymryd rhan yn Fforwm Ieuenctid y Sir.
Pe hoffech chi gymryd rhan yn Fforwm Ieuenctid Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, e-bostiwch Allyn am ragor o wybodaeth: allyn.jones@rctcbc.gov.uk
I fwrw golwg ar unrhyw ymgynghoriadau agored cyfredol y mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn eu cynnal, dilynwch y ddolen isod.
Ymgynghoriadau Cyfredol | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)
Cyfarfodydd Fforwm Ieuenctid – Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid
If you think we have missed out any important information, please let us know. You can call the YEPS team on 01443 281436 or email at yeps@rctcbc.gov.uk
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru