Os fydd rhiant neu aelod agos o’r teulu ddim yn gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain, weithiau bydd angen i aelodau iau o’r teulu edrych ar eu hôl.
Mae yna filoedd ar filoedd o gynhalwyr ifainc yn y Deyrnas Unedig. Bydden nhw yn ceisio edrych ar ôl aelod o’r teulu yn ogystal â gwaith ysgol neu goleg a chael bywyd cymdeithasol. Mae’n gyfrifoldeb enfawr a gallai fod yn rhywbeth sydd yn achosi llawer o straen i’r person ifanc. Bydd rhai cynhalwyr ifainc yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu ymdopi gyda’r sefyllfa yn dda iawn. Felly yn aml bydd eu gwaith ysgol neu eu bywydau cymdeithasol yn cael eu hesgeuluso er mwyn gofalu am yr aelod o’r teulu.
- Mae bod yn gynhaliwr ifanc yn gallu rhoi straen ar dy iechyd corfforol ac emosiynol. Yn aml, swydd llawn amser yw gofalu am berson arall.
- Mae hyn yn cynnwys cwsg aflonydd, straen, tlodi neu unigrwydd cymdeithasol. Efallai byddi di hefyd yn teimlo’n grac, yn drist, yn wan neu fod y sefyllfa yn pwyso arnat ti.
- Mae gofalu am rywun yn achosi straen emosiynol sy’n gallu cael effaith tymor hir arnat ti, felly paid â chadw popeth i ti dy hun. Yn aml bydd cynhalwyr ifainc yn ofni trafod i ba raddau y maen nhw’n gofalu am riant rhag ofn byddan nhw’n cael eu gwahanu neu oherwydd teimladau euogrwydd neu falchder. Ond does dim cywilydd mewn gofyn am help.
- Weithiau’r peth cyntaf i gael ei hepgor yw dy fywyd cymdeithasol. Os fyddi di diim yn gallu treulio amser gyda dy ffrindiau neu eu gweld nhw yn aml, gall hyn achosi i ti deimlo’n ynysig iawn.
- Mae yna grwpiau o gynhalwyr ifainc sydd yn cwrdd drwy sefydliadau a fforymau ar-lein er mwyn cymdeithasu a chynorthwyo ei gilydd. Gallai fod o gymorth i ti siarad â phobl ifainc eraill sydd yn yr un sefyllfa.
- Os bydd dy waith ysgol neu goleg yn dechrau llithro, dylet ti siarad â dy athro/athrawes neu diwtor am dy sefyllfa. Weithiau gallen nhw drefnu i addasu dy waith i fod yn fwy hyblyg ac i gyd-fynd â dy gyfrifoldebau gofalu.
- Wyt ti’n gynhaliwr ifanc? Oes angen cymorth neu gyngor arnat ti? Mae yna bobl sydd ar gael i dy helpu di. Does dim rhaid i ti ymdopi â phopeth ar dy ben dy hun! Mae yna bobl broffesiynol sydd yn gallu gwrando arnat ti yn gyfrinachol a chynnig cyngor ar ddulliau i leihau’r straen sydd arnat ti.
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) – Bod yn gynhaliwr ifanc
The Mix – support for young carers
Mae modd i ti ffonio’r Samariaid ar unrhyw adeg ar 116 123 er mwyn trafod unrhyw broblemau all fod gyda ti. Mae hefyd modd i ti gael sgwrs ar lein gyda rhywun o sefydliad Meic neu ffonia’r llinell gymorth ar 0808 80 23456.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru