Digartrefedd yw pan fydd rhywun yn cysgu allan, heb hawliau i aros lle maen nhw neu i fyw yn rhywle nad yw’n addas iddyn nhw
Beth yw digartrefedd?
Digartrefedd yw pan fydd rhywun yn cysgu allan, heb hawliau i aros lle maen nhw neu i fyw yn rhywle nad yw’n addas iddyn nhw.
Does dim rhaid i chi fod yn cysgu ar y strydoedd i fod yn ddigartref. Mae modd i chi fod yn ddigartref hyd yn oed os oes gyda chi do uwch eich pen. Er enghraifft, fe allech chi fod yn cysgu ar soffa rhywun arall, neu’n aros mewn hostel, lloches nos neu westy gwely a brecwast. Cyfeirir at hyn yn ‘ddigartrefedd cudd‘.
Osgoi digartrefedd
Hyd yn oed os bydd eich sefyllfa’n ymddangos yn anobeithiol, mae yna ffyrdd o osgoi bod yn ddigartref. Weithiau, mae’n bosibl i chi wneud hyn eich hun, neu efallai y bydd angen help arbenigol arnoch chi. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, mae’n well ceisio cyngor cyn gynted ag sy’n bosibl. Cysylltwch â Shelter Cymru i gael cyngor arbenigol.
Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi’n ddigartref?
Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o golli’ch cartref cyn pen 56 diwrnod ac yn methu aros gyda theulu neu ffrindiau, dylech chi ffonio Canolfan Cyngor ar Faterion Tai Pontypridd ar 01443 495188, neu 01443 425011 tu hwnt i oriau gwaith. Mae angen i chi ofyn am wneud cais digartrefedd. Unwaith y bydd y Cyngor yn derbyn eich cais, bydd yn cynnal asesiad llawn er mwyn penderfynu pa gymorth a chefnogaeth y mae gennych chi hawl iddyn nhw. Yn ystod yr asesiad, bydd angen i chi gael eich cyfweld. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, mae’n bosibl y cewch chi eich cyfweld ar yr un diwrnod. Fel arall, byddwch chi’n trefnu apwyntiad ar gyfer cyfweliad.
Beth sydd angen i chi ddod gyda chi i’r cyfweliad
- I.D (tystysgrif geni, pasbort, trwydded yrru)
- Tystiolaeth o incwm (llun o Gredyd Cynhwysol, datganiad banc yn dangos incwm)
- Llythyr gan y person sydd wedi gofyn i chi adael
- Rhif yswiriant gwladol
- Gwybodaeth feddygol (copïau o lythyrau gan feddygon teulu/ymgynghorwyr, adroddiadau therapi galwedigaethol, presgripsiynau amlroddadwy)
- Manylion incwm a gwariant (datganiadau banc y tri mis diwethaf)
- Papurau meddiant llys
- Gorchymyn Troi Allan
- Cytundeb Tenantiaeth
- Tystiolaeth o feichiogrwydd (sgan, llyfr beichiogrwydd)
- Tystiolaeth o Fudd-dal Plant os oes gennych chi blant sy’n dibynnu arnoch chi (llythyr budd-dal plant, datganiad banc)
Os nad oes gennych chi’r wybodaeth ofynnol, mae modd i chi drafod hyn gyda’r swyddog tai ar y diwrnod.
Pa gymorth mae gyda chi hawl iddo?
Bydd yr help y mae gennych chi hawl iddo yn dibynnu ar eich sefyllfa unigol, ac yn dibynnu a ydych chi’n ddigartref ar hyn o bryd neu’n debygol o fod yn ddigartref o fewn y 56 diwrnod nesaf. Bydd y Cyngor yn derbyn cais digartrefedd gennych chi ac yn cynnal asesiad o’ch anghenion tai a chymorth, yn rhoi cyngor a chefnogaeth i chi ar eich sefyllfa bersonol o ran tai (er enghraifft, budd-daliadau, cael eich cyfeirio at asiantaethau eraill neu gymorth pellach, eich helpu i drafod gyda’r landlord neu fenthyciwr morgais).
Fodd bynnag, bydd y Cyngor ond yn cynnig cartref brys i chi os ydych chi’n ddigartref, yn gymwys i gael help ac angen cael eich blaenoriaethu.
Llety argyfwng
Os yw’r Cyngor yn amau eich bod chi’n ddigartref, yn gymwys i gael help, mewn angen blaenoriaethol a bod gennych chi gysylltiad lleol â’r ardal, rhaid iddo ddarparu llety brys i chi wrth ystyried eich sefyllfa ymhellach. Ar ôl i’r Cyngor gwblhau asesiad llawn, os penderfynir bod rhaid i chi gael help i ddod o hyd i rywle i fyw, mae modd i’r llety argyfwng barhau tan hynny.
Dan 18 oed?
Os ydych chi o dan 18 oed, yn ddigartref ac yn methu aros gyda theulu neu ffrindiau, mae modd i chi wneud cais digartrefedd gyda’r Cyngor. Byddwch chi’n cael blaenoriaeth yn awtomatig oherwydd eich oed. Fodd bynnag, does dim modd i chi gael eich tenantiaeth eich hun nes eich bod chi’n 18 oed. Byddwch chi’n gymwys i gael llety dros dro gan y Cyngor wrth ystyried eich achos. Fel arfer, byddwch chi’n cael eich rhoi mewn hostel nes i chi droi’n 18 oed, pan fyddwch chi yna’n gallu trefnu eich tenantiaeth eich hun.
Ddim yn flaenoriaeth?
Os bydd y Cyngor yn canfod nad oes angen blaenoriaeth arnoch chi, does dim dyletswydd ar y Cyngor i’ch helpu chi i ddod o hyd i lety na sicrhau llety, ond dylid darparu gwybodaeth a chyngor cyffredinol i chi ar eich sefyllfa. Os ydych chi mewn llety brys a bod y Cyngor yn canfod nad ydych chi’n flaenoriaeth, mae’n bosibl y bydd yn gofyn i chi adael.
Rhaid i chi gael gwybod am y penderfyniad yn ysgrifenedig, a rhaid i’r Cyngor nodi’i resymau ynghylch y penderfyniad. Mae gyda chi hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad cyn pen 21 diwrnod. Os bydd hyn yn digwydd i chi, dylech chi gael cyngor ar unwaith i weld a allwch chi herio’r penderfyniad. Os yw’ch adolygiad yn aflwyddiannus, cysylltwch â Shelter Cymru. Bydd modd i ymgynghorydd eich helpu chi i ystyried eich opsiynau ynghylch tai.
Manylion Cyswllt Defnyddiol
- Shelter Cymru – Gweithiwr achos ar gyfer RhCT yw Joanna Syms; e-bost: joannas@sheltercymru.org.uk rhif ffôn: 07773797150
- Chwiliwch am gymorth lleol yma: https://sheltercymru.org.uk/searchtool/
- Canolfan Cyngor ar Faterion Tai Pontypridd – 01443 495188
- Platfform – 01443 845975
- Llamau – 029 2023 9585
- Mae modd i fenywod sy’n profi Cam-drin Domestig a Digartrefedd hefyd gysylltu â Llinell Genedlaethol Cymorth i Fenywod 24 awr y dydd ar 0808 2000247.
- Mae modd i ddynion sy’n profi Cam-drin Domestig a Digartrefedd gael eu hatgyfeirio gan Ganolfan Cyngor ar Faterion Tai Rhondda Cynon Taf i The Dyn Wales ac i Ganolfan Argyfwng Teuluol Sir Drefaldwyn.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru