Sut alla i gael help?
Os wyt ti’n ifanc ac yn ddigartref, efallai y byddi di’n colli cysylltiad â dy ffrindiau a dy deulu. Efallai y byddi di hefyd yn colli cyfleoedd addysg a hyfforddiant. Gallwn ni ddarparu cyngor sy’n gysylltiedig â dy anghenion personol, a gweithio’n agos gydag asiantaethau eraill i dy helpu di i fynd yn ôl adref. Os oes angen, gallwn ni hefyd ddarparu llety dros dro ar dy gyfer di hyd nes y gallwn ni ystyried opsiynau llety eraill. Byddwn ni’n helpu i dy dywys dy drwy’r system a dy helpu di i sefyll ar dy draed unwaith eto.
Cysyllta â Chyngor Rhondda Cynon Taf:
- Ffôn: 01443 495188
- Gwasanaeth Argyfwng y tu allan i oriau’r swyddfa: 01443 425011
- E-bost: digartrefedd@rctcbc.gov.uk
Mae Canolfan Cyngor ar Faterion Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn wasanaeth arbenigol sy’n rhoi cyngor ar dai ar gyfer pobl sydd angen help gyda materion tai a llety.
Mae’r Ganolfan ar agor:
- Dydd Llun 9.00am – 5.00pm
- Dydd Mawrth 9.00am – 5.00pm
- Dydd Mercher 9.00am – 5.00pm
- Dydd Iau – Cyswllt drwy’r ffôn yn unig (Bydd Asesiadau Brys yn parhau – ffoniwch yn gyntaf)
- Dydd Gwener 9.00am – 5.00pm
Mae’r gwasanaeth yma’n cael ei ddarparu ar y cyd â:
- Platfform sy’n rhoi cyngor ar dai i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl
- Shelter Cymru sy’n cynnig cymorthfeydd tai arbenigol dyddiol annibynnol
- Llamau sy’n cynnig gwasanaeth cyfryngu i bobl ifainc ddigartref (16 – 21 oed) y mae’r teulu neu ffrindiau wedi gofyn iddyn nhw adael y cartref
Os wyt ti wedi cael dy gicio allan a ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf, gwylia’r fideo isod i gael rhagor o wybodaeth:
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru