Cafodd clwb ieuenctid Llanhari ymwelwyr cyffrous yr wythnos hon. Cawsant ymweliad gan StreetDoctors.
Nod y prosiect yw rhoi cymorth cyntaf sylfaenol i bobl ifanc, fel bod ganddynt y sgiliau i helpu rhywun pe bai angen pan fyddant allan ar y strydoedd.
Mae StreetDoctors yn elusen genedlaethol sy’n rhoi pobl ifanc yng nghanol darpariaeth cymorth cyntaf brys ac yn eu grymuso i ddod yn rhan o’r ateb i drais.
Diolch yn fawr iawn i’r Meddygon gwirfoddol a fynychodd o’r prosiect StreetDoctors: Chris, Charlie a Claudia.