YEPS

Murlun Tonyrefail wedi’u Orffen

Mae gwaith celf hardd sy’n dathlu Tonyrefail a Chymru wedi cael ei ddadorchuddio mewn tanffordd leol. Mae’r gwaith arbennig yma wedi bywiogi’r ardal diolch i ymroddiad pobl ifainc talentog a’r artist graffiti enwog ‘Tee2Sugars’.

Mae’r prosiect a ariennir gan y Cyngor yn gysylltiedig â gwaith ailosod pont droed Tyn-y-bryn gerllaw, a gafodd ei gwblhau yn gynharach eleni – pan gafodd y danffordd ei hatgyweirio a chafodd wyneb newydd ei osod hefyd. Dysgwch ragor am y prosiect yma, diolch i Ysgol Gymuned Tonyrefail, Carfan Strwythurau Priffyrdd y Cyngor a Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor.

Trwy ymgysylltu â’r gwasanaeth, mae grŵp o ddisgyblion ymroddedig o Donyrefail wedi helpu’r prosiect ar bob cam – o’r broses ddylunio i baentio’r murlun o ddechrau mis Medi 2024. Gweithion nhw’n agos gyda ‘Tee2Sugars’ – yr artist graffiti o Dde Cymru sydd wedi cwblhau prosiectau anhygoel yng nghymunedau’r Cymoedd, gan gynnwys murlun mawr ar Stryd y Felin ym Mhontypridd sy’n dathlu cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dref.

Wedi iddyn nhw orffen y murlun yn ddiweddar, cafodd y disgyblion o Donyrefail gyfle i gwrdd â ‘Tee2Sugars’ unwaith yn rhagor ddydd Mawrth 5 Tachwedd, i ddathlu’r prosiect gorffenedig a nodi’u cyflawniad. Ymunodd Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf sy’n gyfrifol am Gyfranogiad Pobl Ifainc, Y Cynghorydd Christina Leyshon, â nhw.

Ar un ochr y gwaith celf mae’r enw ‘Tonyrefail’ wedi’i baentio mewn llythrennau mawr ac mae’r murlun yn cynnwys themâu Cymreig traddodiadol megis cennin Pedr a hanes ein pyllau glo, yn ogystal ag einion, sef symbol y pentref. Ar yr ochr arall, mae gan y murlun luniau cartŵn o bobl ifainc yn darllen ac yn ysgrifennu.

Meddai’r Cynghorydd Christina Leyshon: “Mae’r bobl ifainc o Donyrefail yn glod i’w hysgol a’u cymuned wedi iddyn nhw weithio ar brosiect y murlun o’r dechrau i’r diwedd. Mae’r gwaith celf newydd yn hollol wych – mae’n ddisglair ac yn lliwgar, ac mae’n cynnwys ac yn dathlu themâu pwysig fel eu pentref, eu hunaniaeth Gymreig, a’n gorffennol glofaol. Am wahaniaeth y mae eu hymdrechion wedi’i wneud i addurno’r danffordd!

“Hoffwn i ddiolch hefyd i ‘Tee2Sugars’ sydd wedi arwain y bobl ifainc drwy’r prosiect, ac i swyddogion o’n Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid a’n hadran y Priffyrdd sydd wedi gwneud y prosiect yn bosibl. Mae staff ein Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn ymroddedig dros ben wrth gyflawni gwaith gyda phobl ifainc yn ein hysgolion ac yn y gymuned – maen nhw’n cael dylanwad enfawr ar fywydau pobl ifainc. Mae prosiectau fel yr un yma’n dod â phobl ifainc at ei gilydd ac yn annog gwaith tîm. Mae’r murlun terfynol y mae pawb wedi helpu i’w greu yn rhywbeth y gall y gymuned ei fwynhau a bod yn falch ohono.”

Exit mobile version