Rydyn ni’n deall bod eich preifatrwydd yn bwysig i chi a’ch bod chi’n poeni am y ffordd y caiff eich data personol ei ddefnyddio a’i rannu ar-lein.
Rydyn ni’n parchu ac yn gwerthfawrogi preifatrwydd pawb sy’n ymweld â’r wefan yma, sef Ein Gwefan ni, a byddwn ni dim ond yn casglu ac yn defnyddio data personol mewn ffyrdd a ddisgrifir yma, ac mewn modd sy’n gyson â’n rhwymedigaethau Ni a’ch hawliau o dan y gyfraith.
Darllenwch y Polisi Preifatrwydd yma’n ofalus a sicrhewch eich bod yn ei ddeall. Ystyrir eich bod chi’n derbyn Ein Polisi Preifatrwydd y tro cyntaf rydych chi’n defnyddio Ein Gwefan. Os dydych chi ddim yn cytuno â’r Polisi Preifatrwydd yma, rhaid i chi roi’r gorau i ddefnyddio Ein Gwefan ar unwaith.
1. Diffiniadau a Dehongliadau
Yn y Polisi yma, bydd gan y termau canlynol yr ystyron a ganlyn:
“Cyfrif” | Mae hyn yn golygu cyfrif sydd ei angen i gyrchu a/neu ddefnyddio rhai rhannau a nodweddion o’n Gwefan; |
“Cwci” | Mae hyn yn golygu ffeil destun bychan a osodir ar eich cyfrifiadur neu ddyfais gan Ein Gwefan pan fyddwch chi’n ymweld â rhannau penodol o Ein Gwefan a/neu pan fyddwch chi’n defnyddio rhai o nodweddion Ein Gwefan. Mae manylion y Cwcis a ddefnyddir gan Ein Gwefan wedi’u nodi yn adran 13, isod; |
“Cyfraith Gwcis” | Mae hyn yn golygu rhannau perthnasol o Reoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019; |
“Data personol” | Mae hyn yn golygu’r holl ddata sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y mae modd ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’r data hwnnw. Yn yr achos yma, mae’n golygu data personol rydych chi yn ei roi i Ni trwy Ein Gwefan. Bydd y diffiniad yma, pan fo’n berthnasol, yn ymgorffori’r diffiniadau a ddarperir yn Rheoliad yr UE 2016/679 – y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (“GDPR”); |
“Ni/Ein” | Mae hyn yn golygu YEPS.Wales, sy’n brosiect sy’n cael ei redeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a’i gyfeiriad cofrestredig yw Tŷ Trevithick, Abercynon, RhCT CF44 4UQ. |
“Ein Gwefan” | Mae hyn yn golygu www.yeps.wales. |
“Contact Details” | Mae hyn yn golygu drwy e-bost: yepsactivities@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 281436 ar ein cyfeiriad cofrestredig uchod. |
2. Beth Mae’r Polisi Yma yn ei Gwmpasu?
Mae’r Polisi Preifatrwydd yma’n berthnasol i’ch defnydd o’n Gwefan yn unig. Mae’n bosibl bydd ein Gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Does gyda ni ddim rheolaeth dros sut mae eich data yn cael ei gasglu, ei storio, neu ei ddefnyddio gan wefannau eraill ac rydyn Ni yn eich cynghori i wirio polisïau preifatrwydd unrhyw wefannau o’r fath cyn darparu unrhyw ddata iddyn nhw.
3. Eich hawliau
A chithau’n wrthrych data, mae gyda chi’r hawliau canlynol o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, y mae’r Polisi yma a’n defnydd Ni o ddata personol wedi’u cynllunio i’w cynnal:
- Yr hawl i gael gwybod am Ein casgliad a’n defnydd ni o ddata personol;
- Yr hawl i gael mynediad at y data personol sydd gyda ni amdanoch chi (gweler adran 12);
- Yr hawl i gywiro unrhyw ddata personol sydd gyda ni amdanoch chi sy’n anghywir neu’n anghyflawn (cysylltwch â Ni gan ddefnyddio’r manylion yn adran 14);
- Yr hawl i gael eich anghofio – h.y. yr hawl i ofyn i Ni ddileu unrhyw ddata personol rydyn ni yn ei gadw amdanoch chi (rydyn ni’n cael cadw eich data personol, fel yr eglurir yn adran 6 ond os hoffech chi i Ni ei ddileu yn gynt, cysylltwch â Ni gan ddefnyddio’r manylion yn adran 14);
- Yr hawl i gyfyngu (h.y. atal) prosesu eich data personol;
- Yr hawl i gludo data (cael copi o’ch data personol i’w ailddefnyddio gyda gwasanaeth neu sefydliad arall);
- Yr hawl i wrthwynebu i Ni ddefnyddio eich data personol at ddibenion penodol; a
- Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomatig a phroffilio.
Os oes gyda chi unrhyw achos i gwyno am Ein defnydd o’ch data personol, cysylltwch â Ni gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir yn adran 14 a gwnawn Ein gorau i ddatrys y broblem i chi. Os does dim modd i ni helpu, mae gyda chi’r hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio’r DU, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth neu’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
4. Pa ddata rydyn ni’n ei gasglu?
Yn dibynnu ar eich defnydd o’n gwefan, efallai y byddwn ni’n casglu rhywfaint neu’r cyfan o’r data personol, ac amhersonol canlynol (gweler hefyd adran 13 ar ein defnydd o gwcis a thechnolegau tebyg):
- enw;
- dyddiad geni;
- rhywedd;
- enw’r busnes/cwmni;
- teitl swydd;
- swydd;
- gwybodaeth gyswllt fel eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn;
- gwybodaeth ddemograffig megis cod post, dewisiadau a diddordebau;
- gwybodaeth ariannol megis rhifau cardiau credyd/debyd;
- cyfeiriad IP;
- math a fersiwn eich porwr gwe;
- system weithredu;
- rhestr o URLs sy’n dechrau gyda gwefan gyfeirio, eich gweithgaredd ar Ein Gwefan, a’r wefan rydych chi’n gadael iddi;
5. Sut Ydyn Ni’n Defnyddio Eich Data?
Mae’r holl ddata personol yn cael ei brosesu a’i storio’n ddiogel, am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol yng ngoleuni’r rheswm (rhesymau) y cafodd ei gasglu yn y lle cyntaf. Byddwn ni’n cydymffurfio â’n rhwymedigaethau ac yn diogelu eich hawliau o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol bob amser. Mae rhagor o fanylion am ddiogelwch yn adran 7, isod.
Bydd sail gyfreithlon i’n defnydd Ni o’ch data personol bob amser, naill ai oherwydd ei fod yn angenrheidiol er mwyn i Ni gyflawni contract gyda chi, oherwydd eich bod chi wedi cydsynio i Ni ddefnyddio eich data personol (e.e. trwy danysgrifio i e-byst), neu oherwydd ei fod er Ein buddiannau cyfreithlon. Yn benodol, efallai y byddwn Ni’n defnyddio eich data at y dibenion canlynol:
- Creu a rheoli eich cyfrif;
- Darparu a rheoli eich mynediad i’n Gwefan;
- Personoli a theilwra eich profiad ar Ein Gwefan;
- Cyflenwi Ein cynnyrch/gwasanaethau i chi (sylwch fod angen eich data personol arnon Ni er mwyn ymrwymo i gontract gyda chi);
- Personoli a theilwra Ein cynnyrch/gwasanaethau ar eich cyfer chi;
- Ymateb i negeseuon e-bost oddi wrthoch chi;
- Anfon negeseuon e-bost rydych chi wedi gofyn amdanyn nhw atoch chi (mae modd i chi ddad-danysgrifio neu ddewis peidio â derbyn negeseuon unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn ein negeseuon e-bost);
- Ymchwil marchnad;
- Dadansoddi eich defnydd o’n Gwefan a chasglu adborth i’n galluogi Ni i wella Ein Gwefan a’ch profiad fel defnyddiwr yn barhaus;
Gyda’ch caniatâd a/neu lle mae caniatâd gan y gyfraith, mae’n bosibl y byddwn ni hefyd yn defnyddio’ch data at ddibenion marchnata a allai gynnwys cysylltu â chi drwy e-bost/dros y ffôn/drwy neges destun/drwy’r post gyda gwybodaeth, newyddion a chynigion am Ein cynnyrch/gwasanaethau. Serch hynny, fyddwn ni ddim yn anfon unrhyw farchnata na sbam digymell atoch chi a byddwn ni’n cymryd pob cam rhesymol i sicrhau Ein bod Ni’n diogelu eich hawliau’n llawn ac yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y CE) 2003.
Mae modd i drydydd partïon (fel Google, YouTube, Facebook) y mae eu cynnwys yn ymddangos ar Ein Gwefan ddefnyddio Cwcis trydydd parti, fel y manylir isod yn adran 13. Cyfeiriwch at adran 13 am ragor o wybodaeth am reoli Cwcis. Sylwch Ein bod Ni ddim yn rheoli gweithgareddau trydydd parti o’r fath, na’r data y maen nhw yn ei gasglu a’i ddefnyddio. Rydyn ni yn eich cynghori i wirio polisïau preifatrwydd unrhyw drydydd parti o’r fath.
Mae gyda chi’r hawl i dynnu eich caniatâd i Ni ddefnyddio eich data personol yn ôl unrhyw bryd, ac i ofyn i Ni ei ddileu.
Dydyn ni ddim yn cadw eich data personol am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol yng ngoleuni’r rheswm(rhesymau) y cafodd ei gasglu yn y lle gyntaf.
6. Sut Ydyn Ni’n Storio Eich ac ym Mhle?
Dim ond am y cyfnod sydd ei angen arnom ni y byddwn ni’n cadw eich data personol er mwyn ei ddefnyddio fel y disgrifir uchod yn adran 6, a/neu cyhyd ag y mae gyda ni eich caniatâd i’w gadw.
Mae’n bosibl y bydd rhywfaint neu’r cyfan o’ch data yn cael ei storio y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“yr AEE”) (Mae’r AEE yn cynnwys holl aelod-wladwriaethau’r UE, ynghyd â Norwy, Gwlad yr Iâ, a Liechtenstein). Ystyrir eich bod chi’n derbyn ac yn cytuno i hyn trwy ddefnyddio Ein Gwefan a chyflwyno gwybodaeth i Ni. Os ydyn Ni’n storio data y tu allan i’r AEE, byddwn ni’n cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eich data’n cael ei drin mor ddiogel ag y byddai o fewn y DU ac o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol trwy wirio bod cyflenwyr yn cydymffurfio â’r Darian Preifatrwydd a/neu ISO27001.
Mae diogelwch data yn bwysig iawn i Ni, ac rydyn Ni wedi cymryd mesurau addas i ddiogelu eich data a gesglir trwy Ein Gwefan trwy wirio bod cyflenwyr yn cydymffurfio â’r Darian Preifatrwydd a/neu ISO27001 a thrwy ddefnyddio cysylltiadau SSL Diogel.
7. Ydyn Ni’n Rhannu Eich Data?
Yn amodol ar adran 8.2, fyddwn ni ddim yn rhannu unrhyw ran o’ch data ag unrhyw drydydd parti at unrhyw ddibenion.
Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i Ni rannu data penodol a gedwir gennym Ni. Mae modd i hyn gynnwys eich data personol, er enghraifft, lle rydyn Ni’n rhan o achosion cyfreithiol, lle rydyn Ni’n cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol, gorchymyn llys, neu awdurdod llywodraethol.
Mae’n bosibl y byddwn Ni weithiau’n contractio â thrydydd partïon i gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau i chi ar ein rhan Ni. Mae modd i’r rhain gynnwys prosesu taliadau, danfon nwyddau, cyfleusterau peiriannau chwilio, hysbysebu a marchnata. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y trydydd parti angen mynediad at rywfaint o’ch data neu’r cyfan ohono. Lle bo angen unrhyw ran o’ch data at ddiben o’r fath, byddwn Ni’n cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eich data yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’ch hawliau, Ein rhwymedigaethau, a rhwymedigaethau’r trydydd parti o dan y gyfraith.
Mae’n bosibl y byddwn Ni’n casglu ystadegau am y defnydd o Ein Gwefan gan gynnwys data ar draffig, patrymau defnydd, niferoedd y defnyddwyr, gwerthiannau, a gwybodaeth arall. Bydd yr holl ddata o’r fath yn ddienw a fydd e ddim yn cynnwys unrhyw ddata sy’n eich adnabod chi’n bersonol, nac unrhyw ddata dienw y mae modd ei gyfuno â data arall a’i ddefnyddio i’ch adnabod chi. Efallai y byddwn Ni o bryd i’w gilydd yn rhannu data o’r fath â thrydydd partïon fel darpar fuddsoddwyr, cwmnïau cysylltiedig, partneriaid, a hysbysebwyr. Bydd data’n cael ei rannu o fewn ffiniau’r gyfraith yn unig.
Mae’n bosibl y byddwn ni weithiau’n defnyddio proseswyr data trydydd parti sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“yr AEE”) (Mae’r AEE yn cynnwys holl aelod-wladwriaethau’r UE, ynghyd â Norwy, Gwlad yr Iâ, a Liechtenstein). Lle rydym Ni’n trosglwyddo unrhyw ddata personol y tu allan i’r AEE, byddwn Ni’n cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eich data’n cael ei drin mor ddiogel ag y byddai o fewn y DU ac o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol trwy wirio bod cyflenwyr yn cydymffurfio â’r Darian Preifatrwydd a/neu ISO27001.
Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i Ni rannu data penodol a gedwir gennym Ni. Mae modd i hyn gynnwys eich data personol, er enghraifft, lle rydyn Ni’n rhan o achosion cyfreithiol, lle rydyn Ni’n cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol, gorchymyn llys, neu awdurdod llywodraethol.
8. Beth Sy’n Digwydd Os Bydd Ein Busnes yn Newid Dwylo?
Mae’n bosibl byddwn Ni, o bryd i’w gilydd, yn ehangu neu leihau Ein busnes ac efallai bydd hyn yn cynnwys gwerthu a/neu drosglwyddo rheolaeth o’n busnes cyfan neu ran ohono. Bydd unrhyw ddata personol a ddarparwyd gennych, lle mae’n berthnasol i unrhyw ran o’n busnes sy’n cael ei drosglwyddo, yn cael ei drosglwyddo ynghyd â’r rhan honno a bydd y perchennog newydd neu’r parti newydd sy’n rheoli yn cael ei ganiatáu, o dan delerau’r Polisi Preifatrwydd yma, i ddefnyddio’r data hwnnw dim ond at yr un dibenion ag y’i casglwyd yn wreiddiol gennym Ni.
Os bydd unrhyw ran o’ch data yn cael ei drosglwyddo yn y fath fodd, fyddwn ni ddim yn cysylltu â chi ymlaen llaw er mwyn rhoi gwybod am y newidiadau.
9. Sut Gallwch Chi Reoli Eich Data?
Yn ogystal â’ch hawliau o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, a nodir yn adran 4, rydych chi’n cyflwyno data personol trwy Ein Gwefan. Efallai y cewch chi opsiynau i gyfyngu ar Ein defnydd o’ch data. Yn benodol, Ein nod Ni yw rhoi rheolaethau cryf i chi ar Ein defnydd o’ch data at ddibenion marchnata uniongyrchol (gan gynnwys y gallu i ddewis peidio derbyn e-byst gennym Ni trwy ddad-danysgrifio gan ddefnyddio’r dolenni a ddarperir yn Ein negeseuon e-bost, pan rydych chi’n darparu eich manylion a thrwy reoli eich Cyfrif).
Efallai yr hoffech chi hefyd gofrestru ar gyfer un neu ragor o’r gwasanaethau dewis sy’n gweithredu yn y DU: Y Telephone Preference Service, y Corporate Telephone Preference Service a’r Mailing Preference Service. Efallai gall y rhain eich helpu i beidio derbyn marchnata digymell. Sylwch, fodd bynnag, na fydd y gwasanaethau yma’n eich atal rhag derbyn cyfathrebiadau marchnata rydych chi wedi cydsynio i’w derbyn.
10. Eich Hawl i Atal Gwybodaeth
Mae modd i chi ddefnyddio rhai rhannau o’n Gwefan heb ddarparu unrhyw ddata o gwbl. Serch hynny, i ddefnyddio’r holl nodweddion a swyddogaethau sydd ar gael ar Ein Gwefan efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno data neu ganiatáu ar gyfer casglu data penodol.
Mae modd i chi gyfyngu ar Ein defnydd o Gwcis. Edrychwch ar adran 13 am ragor o wybodaeth.
11. Sut Mae modd i Chi Gael Mynediad i’ch Data?
Mae gyda chi’r hawl i ofyn am gopi o unrhyw ddata personol a gedwir gennym Ni (lle cedwir data o’r fath). O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, does dim ffi yn daladwy a byddwn ni’n darparu unrhyw wybodaeth a’r holl wybodaeth mewn ymateb i’ch cais yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â Ni am ragor o fanylion gan ddefnyddio’r Manylion Cyswllt uchod.
12. Ein Defnydd o Gwcis
Mae modd i’n Gwefan osod a chael mynediad at rai Cwcis parti cyntaf ar eich cyfrifiadur neu ddyfais. Cwcis parti cyntaf yw’r rhai sy’n cael eu gosod yn uniongyrchol gennym Ni ac sy’n cael eu defnyddio gennym Ni yn unig. Rydyn ni’n defnyddio Cwcis i hwyluso a gwella eich profiad o’n Gwefan ac i ddarparu a gwella Ein cynnyrch/gwasanaethau. Rydym Ni wedi dewis y Cwcis yma’n ofalus ac wedi cymryd camau i sicrhau bod eich preifatrwydd a’ch data personol yn cael eu diogelu a’u parchu bob amser.
Trwy ddefnyddio Ein Gwefan efallai y byddwch chi hefyd yn derbyn Cwcis trydydd parti penodol ar eich cyfrifiadur neu ddyfais. Cwcis trydydd parti yw’r rhai sy’n cael eu gosod gan wefannau, gwasanaethau, a/neu bartïon heblaw amdanom Ni. Defnyddir Cwcis trydydd parti ar Ein Gwefan at ddibenion hysbysebu a darparu gwybodaeth ddadansoddol ar gyfer marchnata. Am ragor o fanylion, cyfeiriwch at adran 6, uchod, ac at adran 13.6 isod. Dydy’r Cwcis yma ddim yn rhan annatod o weithrediad Ein Gwefan a fydd eich defnydd a’ch profiad o’n Gwefan ddim yn cael ei amharu trwy wrthod caniatâd iddyn nhw.
Mae’r holl Gwcis a ddefnyddir gan Ein Gwefan ac arno yn cael eu defnyddio yn unol â’r Gyfraith Cwcis gyfredol.
Cyn i Gwcis trydydd parti sy’n defnyddio eich data personol gael eu gosod ar eich cyfrifiadur neu ddyfais, bydd ffenestr fach yn ymddangos sy’n gofyn am eich caniatâd i osod y Cwcis hynny. Trwy roi eich caniatâd i osod Cwcis rydych chi yn ein galluogi Ni i ddarparu’r profiad a’r gwasanaeth gorau posibl i chi. Os dymunwch, mae hawl gyda chi i wrthod cydsynio i osod Cwcis; fodd bynnag mae’n bosibl na fydd rhai nodweddion o’n Gwefan yn gweithredu’n llawn nac yn ôl y bwriad. Byddwch chi’n cael y cyfle i ganiatáu Cwcis parti cyntaf yn unig a rhwystro Cwcis trydydd parti sy’n defnyddio eich data personol.
Mae rhai nodweddion o’n Gwefan yn dibynnu ar Gwcis i weithio. Mae Cyfraith Cwcis yn ystyried bod y Cwcis yma’n “hollol angenrheidiol”. Dangosir y Cwcis yma isod yn adran 13.6. Ni cheisir eich caniatâd i osod y Cwcis yma, ond mae’n dal yn bwysig eich bod chi’n gwybod amdanyn nhw. Mae modd i chi rwystro’r Cwcis yma drwy newid gosodiadau eich porwr rhyngrwyd fel y nodir isod yn adran 13.10, ond cofiwch ei bod hi’n bosibl na fydd Ein Gwefan yn gweithio’n iawn os gwnewch chi hynny. Rydyn ni wedi cymryd gofal mawr i sicrhau bod eich preifatrwydd ddim mewn perygl trwy eu caniatáu.
Mae modd gosod y Cwcis parti cyntaf canlynol ar eich cyfrifiadur neu ddyfais:
- Cwci rheoli i’n galluogi i rwystro cwcis dewisol eraill
- Cwcis i gynorthwyo ymarferoldeb y wefan, megis cofio cynnwys eich basged, os ydych chi wedi mewngofnodi i’r wefan, iaith, dewis arian a dewisiadau tebyg eraill
ac mae modd gosod y Cwcis trydydd parti canlynol ar eich cyfrifiadur neu ddyfais:
- Google Analytics – Casglu Data Dienw
- Facebook Pixel
- Trosi Google/Ailfarchnata
Mae ein Gwefan yn defnyddio gwasanaethau dadansoddeg a ddarperir gan Google Analytics. Mae dadansoddeg gwefan yn cyfeirio at set o offer a ddefnyddir i gasglu a dadansoddi gwybodaeth ddefnydd ddienw, gan ein galluogi Ni i ddeall yn well sut mae Ein Gwefan yn cael ei defnyddio. Mae hyn, yn ei dro, yn ein galluogi Ni i wella Ein Gwefan a’r cynhyrchion/gwasanaethau a gynigir drwyddi. Does dim rhaid i chi ganiatáu i Ni ddefnyddio’r Cwcis yma, fodd bynnag, er nad yw Ein defnydd ohonyn nhw’n peri unrhyw risg i’ch preifatrwydd na’ch defnydd diogel o Ein Gwefan, mae’n ein galluogi Ni i wella Ein Gwefan yn barhaus, gan wneud eich profiad chi’n well ac yn fwy defnyddiol.
Yn ogystal â’r rheolaethau rydyn ni’n eu darparu, mae modd i chi ddewis galluogi neu analluogi Cwcis yn eich porwr rhyngrwyd. Mae’r rhan fwyaf o borwyr rhyngrwyd hefyd yn eich galluogi chi i ddewis a ydych chi am analluogi pob cwci neu gwcis trydydd parti yn unig. Yn ddiofyn, mae’r rhan fwyaf o borwyr rhyngrwyd yn derbyn Cwcis ond mae modd newid hyn. Am fanylion pellach, gweler y ddewislen help yn eich porwr rhyngrwyd neu’r dogfennau a ddaeth gyda’ch dyfais.
Mae modd i chi ddewis dileu Cwcis ar eich cyfrifiadur neu ddyfais unrhyw bryd, fodd bynnag fe allech chi golli unrhyw wybodaeth sy’n eich galluogi i gael mynediad i’n Gwefan yn gyflymach ac yn fwy effeithlon gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, osodiadau mewngofnodi a phersonoli.
Argymhellir eich bod chi’n cadw’ch porwr rhyngrwyd a’ch system weithredu yn gyfredol a’ch bod chi’n ymgynghori â’r cymorth a’r arweiniad a ddarperir gan ddatblygwr eich porwr rhyngrwyd a gwneuthurwr eich cyfrifiadur neu ddyfais os ydych chi’n ansicr ynghylch addasu eich gosodiadau preifatrwydd.
13. Cysylltu â Ni
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am Ein Gwefan neu’r Polisi Preifatrwydd yma, cysylltwch â Ni am ragor o fanylion gan ddefnyddio’r Manylion Cyswllt uchod. Gofalwch fod eich ymholiad yn glir, yn enwedig os yw’n gais am wybodaeth am y data sydd gennym Ni amdanoch chi (fel o dan adran 12, uchod).
14. Newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd
Mae’n bosibl y byddwn Ni’n newid y Polisi Preifatrwydd yma o bryd i’w gilydd (er enghraifft, os bydd y gyfraith yn newid). Bydd unrhyw newidiadau yn cae; eu nodi ar Ein Gwefan a bernir eich bod chi wedi derbyn telerau’r Polisi Preifatrwydd ar eich defnydd cyntaf o Ein Gwefan yn dilyn y newidiadau. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n gwirio’r dudalen yma’n rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.