YEPS

Tonyrefail x Tee2Sugars

Mae pobl ifainc yn Nhonyrefail yn gweithio gyda’r artist graffiti enwog, ‘Tee2Sugars’, i greu murlun bywiog a lliwgar sy’n dathlu Cymru a’u cymuned. Mae’r prosiect cyffrous yn cael ei ariannu gan Cyngor Rhondda Cynon Taf, a hynny’n rhan o waith gosod pont droed newydd a gafodd ei gwblhau’n lleol yn gynharach eleni.

Mae grŵp o ddisgyblion o Ysgol Gymuned Tonyrefail wedi helpu i ddylunio’r murlun. Bydd y gwaith celf yn dangos enw’r pentref ac yn cynnwys themâu Cymreig traddodiadol megis cennin Pedr a hanes ein pyllau glo, yn ogystal ag einion, sef symbol y pentref. Ar yr ochr arall, bydd gan y murlun luniau cartŵn o bobl ifainc yn darllen ac yn ysgrifennu.

Mae ‘Tee2Sugars’ yn dod o Dde Cymru ac wedi cwblhau gwaith celf gwych yn y gymuned – gan gynnwys y murlun enfawr ar adeilad ar Stryd y Felin ym Mhontypridd, sy’n dathlu cynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Aeth i gwrdd â disgyblion Tonyrefail gyda YEPS i ddatblygu eu dyluniad, a dechreuodd y grŵp y broses o baentio’r murlun yn ddiweddar. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn y mis nesaf.

Exit mobile version