Arolwg Eich Llais 2023!

Gan -
Dim Sylwadau

Canlyniadau Arolwg Eich Llais 2023

 

Yn 2023, lansiodd Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) Rhondda Cynon Taf ei ymgynghoriad Eich Llais / Your Voice i gasglu barn pobl ifanc 11-25 oed ar y materion sy’n effeithio ar eu bywydau. Rhoddwyd cyfle i bobl ifanc gwblhau cyfres o gwestiynau rhyngweithiol yn seiliedig ar ystod o feysydd thematig gan ddefnyddio llwyfan arolwg ar-lein.

Cwblhaodd bron i 5,000 o bobl ifanc yr arolwg mewn ysgolion, colegau, clybiau ieuenctid a lleoliadau cymunedol eraill ar draws y fwrdeistref sirol, gan gynrychioli amrywiaeth y bobl ifanc sy’n byw, yn cael eu haddysg neu’n gweithio yn RhCT.

Mae canlyniadau’r ymgynghoriad, a fydd yn cael eu defnyddio i wella’r ffordd y mae CBS Rhondda Cynon Taf a sefydliadau partner yn darparu gwasanaethau i bobl ifanc yn yr ardal yn llunio adroddiad terfynol. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau’r ymgynghoriad sy’n cael eu harddangos mewn adrannau sy’n cynrychioli meysydd thematig unigol.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd cyfres o fideos yn cael eu hychwanegu at y dudalen we hon sy’n amlygu holl ganfyddiadau allweddol yr arolwg. Ar ôl i’r fideos gael eu harddangos ar draws llwyfannau Cyfryngau Cymdeithasol YEPS, ac fyddant ar gael ar y dudalen hon mewn adrannau hawdd i ddilyn o’r adroddiad.

Hoffai’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ddiolch i’r bobl ifanc a fanteisiodd ar y cyfle i gwblhau’r arolwg a phawb a gefnogodd gyda chyflwyno’r ymgynghoriad. Os hoffech wneud cais am gopi o’r adroddiad, anfonwch e-bost i: yeps@rctcbc.gov.uk

1. Cyflwyniad

2. Cyfryngau Cymdeithasol a’r Rhyngrwyd

3. Gweithgareddau

4. Cymunedau

5. Newid Hinsawdd

6. Lles

7. Bwlio

8. Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant: 11-15

9. Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant: 16+

10. Hawliau

11. Iaith

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl